Ni fydd cefnogwyr Cymru yn cael mynychu gemau pêl-droed rhyngwladol oddi cartref fis Medi.

Mewn datganiad i gymdeithasau cenedlaethol Ewrop, fe wnaeth FIFA ac UEFA gadarnhau na fydd tocynnau’n cael eu rhoi i gefnogwyr yr ymwelwyr.

Bydd hyn yn berthnasol i gêmau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022, yn ogystal â gemau cyfeillgar rhyngwladol yn y cyfnod.

Fe fydd y penderfyniad yn effeithio ar gefnogwyr Cymru oedd wedi bwriadu teithio i Helsinki i wylio’r gêm gyfeillgar yn erbyn y Ffindir ar 1 Medi.

Covid

Mae gêm ragbrofol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn erbyn Belarws yn cael ei chynnal mewn lleoliad niwtral yn Kazan, Rwsia, ac felly’n cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn sgil “cynnydd diweddar mewn achosion Covid-19 yn Ewrop, yn ogystal â’r nifer o gemau sydd i’w chwarae yn ystod y cyfnod o gemau rhyngwladol ym mis Medi”.

Bydd cefnogwyr Cymru yn derbyn diweddariad ddechrau’r wythnos nesaf ynghylch y drefn gyda thocynnau ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Estonia ar 8 Medi, meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru.