êMae gobaith o gael stadiwm y Principality yn llawn gyda dros 70,000 o gefnogwyr ar gyfer gêmau Cymru yng Nghyfres yr Hydref.

Dyma’r tro cyntaf ers cystadleuaeth y Chwe Gwlad yn 2020 i hynny ddigwydd, wrth i Gymru herio tîmau hemisffer y de.

O yfory (dydd Iau 12 Awst ymlaen), bydd cefnogwyr yn gallu prynu tocynnau ar gyfer gêmau Seland Newydd, De Affrica, Ffiji ac Awstralia.

Bydd prisiau’r tocynnau yn amrywio o £5 i £95 yn dibynnu ar y gwrthwynebwyr.

Pe bai cyfyngiadau Covid-19 yn newid unwaith eto, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau byddai ad-daliad llawn yn cael ei roi.

Mae’n siŵr y bydd galw mawr am docynnau yn sgil y pandemig ac wrth ystyried safon y gwrthwynebwyr.

Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi rhagweld cyfres “galed” o gemau.

Ymhyfrydu

“Rydyn ni’n dechrau gyda’r ddau dîm gorau yn y byd ar gefn wrth gefn yng Nghaerdydd a dydy’r gemau ar ôl hynny ddim llawer haws, gyda Ffiji ac Awstralia yn gallu ein gwthio ni i’r eithaf.

“Ond dyma hanfod rygbi rhyngwladol – profi ein hunain yn erbyn y gorau – a byddwn yn ymhyfrydu yn yr her.”

Dyma fydd y pedwerydd tro i Gymru chwarae’r union wrthwynebwyr yma ers i gyfresi’r Hydref ddod yn draddodiad yn y 1990au.

Y Gêmau:

  • Cymru v Seland Newydd – Dydd Sadwrn, 30 Hydref
  • Cymru v De Affrica – Dydd Sadwrn, 6 Tachwedd
  • Cymru v Ffiji – Dydd Sul, 14 Tachwedd
  • Cymru v Awstralia – Dydd Sadwrn, 20 Tachwedd