Colli fu hanes y Llewod yn Ne Affrica, ac mae un o sylwebwyr rygbi craffaf Cymru yn credu bod y gêm rygbi ei hun wedi colli cefnogwyr hefyd.

Drwyddi draw roedd y rygbi yn ddiflas o gorfforol a’r gêm gicio yn teyrnasu, gan olygu na welwyd fawr ddim rygbi disglair na chyffroes.

Fe lwyddodd y Llewod i ennill y prawf cyntaf, 22-17, yn Cape Town, cyn cael eu chwalu 27-9 yn yr ail brawf.

Ac fe gollon nhw’r trydydd prawf tyngedfennol o drwch blewyn y Sadwrn diwethaf, 19-16.