Mae’r Archdderwydd yn falch o’r modd y cafodd seremonïau’r Orsedd eu haddasu i’r teledu a radio ar gyfer Eisteddfod AmGen 2021, a’u darlledu yn fyw o stiwdio Sgwâr Ganolog y BBC eleni.

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei gohirio am yr eildro, dyma’r ail flwyddyn i’r trefnwyr geisio darparu rhan o’i harlwy draddodiadol drwy gyfryngau eraill. Yn ôl Myrddin ap Dafydd, roedd hi’n fwy llwyddiannus yn gwneud hynny eleni.