Mae enillydd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod AmGen 2021 yn gobeithio y tro yma y bydd ei waith buddugol yn cyrraedd y llwyfan.

Enillodd y llenor Gareth Evans-Jones, darlithydd Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor, y Fedal eleni am ei ddrama Cadi Ffan a Jan, a’i wobrwyo mewn seremoni arbennig yn stiwdio deledu Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd.