Prif neges gwaith yr artist Mari Gwenllian yw annog eraill i garu eu hunain a bod yn glên gyda’u cyrff.
Yn ogystal â pheintio canfasau hardd a lliwgar a chreu mapiau o bren a chortyn, mae ei gwaith celf yn anelu at hybu hyder corfforol.
Gan arbenigo mewn noethluniau haniaethol, mae ei gwaith nawr yn ymddangos ar ddillad, bagiau a chalendrau, ac yn annog eraill i ddathlu eu cyrff.
Yn ferch i’r gantores werin adnabyddus Linda ‘Plethyn’ Griffiths, ac yn cyd-ganu gyda’i chwiorydd, Lisa Angharad a Gwenno Elan, yn y triawd acapela Sorela, daw Mari Gwenllian o deulu creadigol.
Cafodd ei magu yn Aberystwyth, ond bellach mae hi’n byw yng Nghaerdydd, ac yn gweithio yn llawn amser yn artist ers rhoi gorau i’w swydd fel barista.
“Fi wastad wedi cael diddordeb mewn celf ers pan roeddwn i’n fach, wastad yn gwneud rhyw brosiect,” meddai.
“Fi’n cofio pan roeddwn i’n rili bach, roeddwn i’n chwarae’r squiggle game gyda dad. Fel arfer roedd dad yn gwneud squiggle mawr ar ddarn o bapur, ac roeddwn i’n trio gwneud rhywbeth allan o squiggle – wyneb neu anifail neu rywbeth.
“Roeddwn i wastad yn joio stwff fel yna.”
Er ei bod hi bellach yn byw yn y brifddinas, mae Mari Gwenllian yn dweud ei bod hi’n arfer bod yn “country bumpkin”, ac wrth ei bodd yn chwarae tu allan pan oedd hi’n blentyn.
“Efallai bod hwnna wedi chwarae mewn at fod yn berson creadigol, ‘mod i mas o hyd yn blentyn.
“Fi wastad wedi bod yn fwy creadigol nac academaidd, so fe wnes i wneud Celf yn Lefel A ac wedyn fe wnes i astudio Ffotograffiaeth yn y Brifysgol.
“Fi just wastad wedi caru celf, ac fe wnes i benderfynu trio ei wneud e’n llawn amser ac here I am.”
Bu yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerleon, ond mae hi’n cyfaddef na wnaeth hi fwynhau’r “profiad prifysgol” gymaint â hynny.
“Sa i’n meddwl bod e’n cael ei siarad am ddigon, sut mae fe’n bosib ddim joio fe.
“Fi’n meddwl efallai y gwnes i ddewis y cwrs anghywir, wnes i just ddim rili gwneud lot o ffrindiau ar fy nghwrs i na’r bobol roeddwn i’n byw gyda.
“It wasn’t for me. Ond dw i ddim yn difaru fe, fe wnes i ddal dysgu lot – lot am fy hun fel person, a bydda mam yn dweud ‘character building’.
“Ar y cwrs roedden nhw’n setio ti lan i fod yn ffotograffydd, so roedden nhw’n setio ti lan i fod yn self employed a sut i gael platfform ar y cyfryngau cymdeithasol, lot o stwff fel yna, dw i yn eu defnyddio gyda chelf a fy musnes nawr.”
Erbyn hyn, dydi Mari Gwenllian ddim yn gwneud fawr ffotograffiaeth, ond mae miloedd yn ei dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ymddangosodd ar Young, Welsh, and Bossin’ It yn ddiweddar – rhaglen ar y BBC oedd yn dilyn entrepreneuriaid ifanc – yn trafod ei busnes HIWTI.
Rhannu cynnwys yn hybu hyder corfforol yw’r prif beth, bron â bod, ar gyfryngau cymdeithasol Mari Gwenllian.
Mae wedi cael tynnu ei llun yn hyrwyddo’r dillad mae hi’n eu creu.
“Nôl yn tua mis Mehefin diwethaf, roedd gyda fi grysau-t newydd, ges i design newydd, batch newydd o grysau roeddwn i’n eu gwerthu, ac roedd slogan ‘Nics’ ar y crys-t.”
Ar gyfer hyrwyddo’r crysau ar Instagram, penderfynodd y byddai’n tynnu llun ohoni hi’n gwisgo’r crys a shorts.
“Fel roeddwn i’n tynnu’r lluniau wnes i sylwi wrth blygu lawr bod bach o pouch bol gyda fi, roeddet ti’n gallu gweld bol fi, rhywbeth dw i wastad wedi bod yn eithaf conscious ohono fe.
“Fe wnes i gael ymateb eithaf da o hwnna, ac wedyn fe wnes i just roll with it ac fe wnaeth e rili snowballio.
“Y mwyaf roeddwn i’n bostio am fy nghorff fy hun, a phositifrwydd a hyder corff, y mwyaf o ymateb roeddwn i’n gael, a’r gorau roedd e’n gwneud i fi deimlo.
“Aeth e just yn fwy a mwy o beth, a nawr dyna, basically, y prif beth ar Instagram fi.
“Fi’n rili falch wnes i wneud yr un post bach yna,” meddai Mari Gwenllian, sydd wrth ei bodd yn mynd i’r gampfa a cherdded gyda’i theulu.
“Mae’r gefnogaeth yn amazing, mae pobol just mor neis. Cymaint o bobol dw i ddim yn eu hadnabod yn anfon negeseuon mor gefnogol a neis.
“Fi’n cael negeseuon bob hyn a hyn yn dweud sut mae rhywbeth dw i wedi bostio wedi gwneud gwahaniaeth. Wnes i roi post lan diwrnod o’r blaen am wisgo bicini – ‘every body is a beach body’ – ac fe wnaeth rhywun yrru neges ata i yn dweud: ‘Fe wnes i benderfynu ‘mod i am wisgo bicini’r wythnos yma ar ôl gweld post ti’.
“Mae rhywbeth fel yna’n rili helpu i annog chdi i gario ymlaen i wneud e, achos fi’n cael gwybod bod o actually yn gwneud gwahaniaeth i ambell i berson.”
Yn ogystal â chael ei hysbrydoli gan y bobol greadigol o’i hamgylch, daw cryn dipyn o’r ysbrydoliaeth ar gyfer ei chelf, ac ar gyfer meithrin cariad tuag at ei chorff, o’r We.
“Fi’n dilyn lot o gyfrifon eraill ar Instagram sy’n gwneud lot efo hyder corfforol, fi’n cael ysbrydoliaeth yn fan yna o ran beth i’w bostio a pha fath o bethau mae pobol eisiau eu gweld, a’r pethau sy’n help i fi, y pethau sy’n gwneud i fi deimlo’n well am fy hun.
“Fi’n dueddol o roi spin fy hun ar bethau dw i wedi’u gweld. Fi’n cofio gweld ambell i print line art a meddwl eu bod nhw’n rili cŵl, so wnes i just dechrau gwneud rhai fy hun.
“O Instagram, dw i wedi cael lot o ysbrydoliaeth o ran bod yn hunanhyderus in general, a chael hyder corff.
“Fi wastad yn dweud bod e’n rili rili pwysig mynd trwy bwy ti’n dilyn ar Instagram with a fine tooth comb a dad-ddilyn unrhyw un sydd ddim yn gwneud i ti deimlo’n dda am dy hun, a dilyn lot mwy o bobol sy’n gwneud i chdi deimlo’n dda am dy hun – pobol mwy positif.”
- Gallwch weld gwaith Mari Gwenllian ar wefan HIWTI neu wrth ddilyn h.i.w.t.i ar Instagram.