Mae dau o chwaraewyr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wedi arwyddo i glybiau newydd.

Bydd Rabbi Matondo yn symud i Cercle Brugge yng Ngwlad Belg ar fenthyg o glwb Schalke 04 yn yr Almaen.

Roedd wedi chwarae rhan olaf y tymor diwethaf ar fenthyg yn Stoke, gan sgorio un gôl yn unig mewn deg gem.

Mae’r asgellwr 20 oed wedi ennill wyth cap i Gymru, ond ni chafodd o ei alw i fod yn rhan o dîm terfynol yr Ewros.

Dywedodd ar ei gyfrifon gyfryngau cymdeithasol ei fod yn “edrych ymlaen at ddechrau.”

Hefyd, mae’r chwaraewr canol cae Joe Morrell wedi cael ei arwyddo gan Portsmouth wedi iddo gael tymor yn y bencampwriaeth gyda Luton.

Mae Morrell wedi derbyn canmoliaeth am ei berfformiadau gyda Chymru, ac fe ddechreuodd pob gêm i Gymru yng nghystadleuaeth yr Ewros eleni.

Mae’r chwaraewr 24 oed yn arwyddo cytundeb tair blynedd â’r clwb yn Ne Lloegr.

Dywedodd rheolwr Portsmouth, Danny Cowley, bod Morrell am gynnig egni a brwdfrydedd “heintus” i’r tîm.

“Fe yw’r math o fachgen sydd bob amser yn gyntaf i gael y peli allan wrth hyfforddi ac fel hyfforddwr, fe yw’r math o berson rydych chi’n edrych ymlaen at ei weld yn y bore,” meddai.

“Fe wnaethon ni ei arwyddo gyntaf ar fenthyg o Bristol City pan oedden ni yn Lincoln ac fe drawsnewidiodd ein tîm.

“Dyna oedd ei dymor mawr cyntaf yng Nghynghrair Un ac fe gafodd ei alw i gynrychioli tîm cyntaf Cymru yn dilyn hynny.

“Roedd yn wych ei wylio yn yr Ewros dros yr haf ac mae’n chwaraewr talentog dros ben sydd yn bwyllog ar y bêl.

“Mae e’n barod i godi’r bêl yn unrhyw le ar y cae ac mae bob amser mor ddewr oherwydd ei fod yn ymddiried yn ei allu ei hun.”