Mae Stadiwm Liberty yn Abertawe yn mynd i gael ei ail-enwi yn dilyn cytundeb newydd.
O hyn ymlaen, bydd cartref yr Elyrch a’r Gweilch yn cael ei alw’n Stadiwm Swansea.com mewn cytundeb deng mlynedd.
Bu Swansea.com hefyd yn noddwyr ar grysau clwb pêl-droed Abertawe rhwng 2007 a 2009.
Roedd Liberty Properties wedi noddi’r stadiwm ers iddi gael ei hagor yn 2005, ond mae clwb Abertawe wedi bod yn awyddus i gael enw newydd ers iddyn nhw brynu’r stadiwm yn gyfan gwbl oddi wrth gyngor y ddinas.
‘Pwysleisio cysylltiadau’ lleol
Roedd y clwb wedi cael cynigion gan fusnesau o’r diwydiant teithio, gamblo a chrypto-arian, ond penderfynon nhw aros gydag enw lleol.
“O safbwynt masnachol, y prif ffocws yw gyrru hirhoedledd masnachol y busnes a sicrhau dyfodol y clwb pêl-droed yn ariannol,” meddai pennaeth masnachol Abertawe, Rebecca Edwards-Symmons.
“Rhan allweddol o hynny oedd dod o hyd i bartner sydd â gwerthoedd sy’n cyfateb i’n rhai ni, a chael cytundeb sy’n hwb ariannol i’r clwb yn dilyn cyfnod anodd yng nghanol y pandemig.
“Mae’r ffaith ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb â chwmni o Abertawe yn gwneud synnwyr llwyr i ni fel clwb, ac yn cyd-fynd â’n hawydd i bwysleisio’r cysylltiadau sydd gennym â nifer o fusnesau a phartneriaid yn ein dinas.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at yr hyn rydyn ni’n gobeithio bydd yn ddyfodol llwyddiannus i Abertawe yn chwarae yn Stadiwm Swansea.com.”