Mae cefnogwyr clwb pêl-droed Wrecsam wedi bod yn nodi deng mlynedd i’r diwrnod ers iddyn nhw gasglu digon o arian i achub y clwb.

Bryd hynny, fe gasglodd y cefnogwyr £250,000 i’w gyflwyno fel bond i’r Gynghrair Genedlaethol.

Fe gafodd y cefnogwyr eu had-dalu, ond mae’r weithred yn cael ei gweld fel un a wnaeth atal y clwb rhag mynd i’r wal yn ariannol.

Erbyn hyn, mae Wrecsam yn mynd o nerth i nerth wedi iddyn nhw gael eu prynu gan yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn 2020.

‘Un o’r diwrnodau pwysicaf yn hanes y clwb’

Mewn post ar Twitter, fe gofnododd clwb Wrecsam y garreg filltir.

“Ar y diwrnod hwn 10 mlynedd yn ôl, wedi bron i ddegawd o ymladd i achub ein clwb, cododd y cefnogwyr dros £100,000 i sicrhau y gallem ddechrau’r tymor newydd,” meddai’r clwb.

“Fe roddon nhw weithredoedd eu tai, cronfeydd priodas ac arbedion bywyd i’n hachub, a nawr rydyn i’n yn edrych ymlaen at ddyddiau mwy disglair.”

Wrth ymateb, mynegodd y perchennog newydd Rob McElhenney sylwadau am y dyddiad hanesyddol.

“Dyma un o’r diwrnodau pwysicaf yn hanes y clwb,” meddai.

“Mae’n anrhydedd i ni fod yn rhan o’i ddyfodol. Ymlaen.”