Mae Lionel Messi wedi cadarnhau y gallai Paris St Germain fod yn gyrchfan nesaf iddo ar ôl iddo ffarwelio’n ddagreuol gyda Barcelona.
Safodd teulu, cyd-chwaraewyr a newyddiadurwyr i gymeradwyo’r chwaraewr rhyngwladol o Archentwr 34 oed mewn cynhadledd ffarwelio i’r wasg yn y Nou Camp heddiw – dridiau ar ôl i’r clwb gyhoeddi ei ymadawiad arfaethedig.
Rhoddodd Messi anerchiad byr ond emosiynol cyn ateb cwestiynau ynghylch y trafodaethau ynglŷn a’i gytundeb.
Roedd Barca yn beio rheolau chwarae teg ariannol LaLiga am eu hanallu i daro bargen.
Pan ofynnwyd iddo am ddiddordeb PSG, dywedodd: “Mae hynny’n un posibilrwydd yn onest, i gyrraedd yr uchelfannau hynny. Ar hyn o bryd, does gen i ddim byd wedi’i gadarnhau gyda neb.
Galwadau
“Pan gyhoeddwyd y datganiad i’r wasg, cefais lawer o alwadau, roedd gan lawer o glybiau ddiddordeb.
“Ar hyn o bryd, does gen i ddim byd ar gau, ond rydyn ni’n sôn am lawer o bethau.”
Ymunodd Messi â Barca fel plentyn 13 oed. Ers hynny mae Messi wedi ennill y Ballon d’Or chwech o weithiaiu. Mae’n gadael ar ôl chwarae ei ran i helpu ei glwb ennill 35 tlws.
Cyfaddefodd fod ei “waed yn rhedeg yn oer” pan ddaeth i’r amlwg nad oedd yn mynd i allu aros ar ôl teimlo ei fod ef a’i lywydd Joan Laporta yn agos at ddod i gytundeb.
Dywedodd Messi, a gadarnhaodd hefyd ei fod wedi cynnig cymryd toriad cyflog o 50 y cant i barhau â chyfnod o wasanaeth a ddaeth â 672 o gôliau mewn 778 o ymddangosiadau: “Dyma a ddywedodd Laporta hyd at y funud olaf, ac oherwydd popeth gyda’r gynghrair, ni allai ddigwydd yn sydyn.
Cartref
“Rwyf wedi bod yma gymaint o flynyddoedd, fy mywyd cyfan yma ers pan oeddwn yn 13 oed. Ar ôl 21 mlynedd, rwy’n gadael gyda’m gwraig, gyda’m tri phlentyn bach Catalaneg-Ariannin.
“Rydyn ni wedi byw yn y ddinas hon ac alla i ddim dweud na fyddwn ni’n dod yn ôl ymhen ychydig flynyddoedd oherwydd dyma ein cartref, ac rwy’n addo hynny i’m plant.”
P’un a yw dyfodol uniongyrchol Messi ym Mharis ai peidio, bydd ei yrfa ddisglair yn awr yn dechrau ar gyfnod newydd ac nid yw’n barod eto i orffwys ar ei rwyfau.
Dywedodd: “Dydw i dal heb ddod i delerau â’r realiti o fod yn y sefyllfa hon a gadael y clwb hwn a newid fy mywyd yn llwyr.
“Ond dwi’n gwybod ein bod ni’n mynd i fod yn iawn. Bydd yn newid anodd, ond mae angen i ni ei dderbyn, mae angen i ni ei dderbyn a symud ymlaen.”