Mae’r mwyafrif o bobl Cymru’n credu bod angen i ni newid ein ffordd o fyw yn sylweddol i atal newid hinsawdd.

Daw hyn yn dilyn arolwg gan y llywodraeth i dros 1,000 o gyfranogwyr.

Fe ddywedodd 84% eu bod am weld llai o fwyd yn cael ei wastraffu, llai o bacedi a mwy o ailgylchu, tra bod 81% o bobl yn nodi eu bod nhw eisoes yn ceisio lleihau eu gwastraff bwyd.

Er bod 86% yn bryderus o newid hinsawdd, dim ond 15% oedd yn poeni y byddai’n effeithio’n fawr ar eu hardal leol,

Er hynny, roedd 42% yn sylweddoli bod newid hinsawdd yn mynd i effeithio eu hardal i raddau.

Targedau

Mae adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd eisoes wedi nodi’r risgiau brys ac eang mae Cymru’n ei hwynebu, ac mae’r Llywodraeth wedi gosod targedau dim gwastraff uchelgeisiol a chyflwyno’r strategaeth economi gylchol.

Roedd hyd at 80% wedi nodi y byddai dyfodol allyriadau Sero-Net yn well i iechyd neu lesiant, tra bod 51% wedi dweud y byddai’n well i’r economi.

Roedd 80% hefyd yn cefnogi ymrwymiad y Deyrnas Unedig i gyrraedd targedau Sero-Net erbyn 2050.

Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawd, wedi rhoi sylw ar gamau’r Llywodraeth i geisio cyrraedd targedau Sero-Net, ac yn annog pobl i ymddiried ynddyn nhw.

“Yng Nghymru, rydyn ni’n edrych ar ôl ein gilydd, felly does gen i ddim amheuaeth yn ein gallu i uno a brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd,” meddai.

Llifogydd

“Bydd cyrraedd Sero-Net erbyn 2050 yn gofyn am weithredu pendant dros y 10 mlynedd nesaf, sy’n golygu bod y llywodraeth, busnesau a chymunedau’n dod at ei gilydd i newid y ffordd rydyn ni’n bwyta, siopa, teithio a chynhesu ein cartrefi.

“Er y bydd costau ymlaen llaw wrth weithredu, bydd yr effeithiau o wneud dim byd am y mater yn sylweddol uwch.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar bob un o’n cymunedau, ac mae’n cael ei ragweld bydd llifogydd yng Nghymru yn digwydd yn amlach ac yn fwy difrifol na beth ydyn ni wedi ei weld dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Rhaid i ni beidio â chael ein gorlethu gan y camau rydyn ni’n eu cymryd heddiw i fuddsoddi yn ein dyfodol.

“Bydd Cymru Sero-Net yn edrych yn iachach, yn hapusach ac yn fwy llewyrchus i ni a’n plant a’n hwyrion, a’r holl genedlaethau sy’n dilyn.”