Clywodd cwest i farwolaeth merch 15 oed mewn parc gwyliau ger Abergele ei bod hi’n ymddangos ei bod wedi’i mygu i farwolaeth a bod ei gwddf wedi ei wasgu.

Bu farw Amanda Selby o Ashton-under-Lyne, Manceinion wedi digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn ar 31 Gorffennaf.

Heddiw (dydd Llun, Awst 9) oedd diwrnod cyntaf y cwest yn Rhuthun, Sir Ddinbych.

Dywedodd y crwner John Gittins bod Heddlu’r Gogledd wedi’u galw i’r digwyddiad gan y gwasanaeth ambiwlans.

Anadlu

Roedden nhw wedi’u galw yn dilyn adroddiadau bod y ferch yn anymwybodol ac wedi stopio anadlu.

Cofnododd parafeddygon bod y ferch wedi marw a bod ei thad Anthony Selby wedi’i hadnabod yn swyddogol.

Yn ystod y gwrandawiad dywedodd patholegydd  y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers, ei bod hi’n ymddangos bod y ferch wedi mygu i farwolaeth a bod ei gwddf wedi ei wasgu, a doedd hi ddim yn bosib iddi anadlu.

Cafodd y cwest ei ohirio gan fod ei brawd 19 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn y maes carafanau.

Doedd ei theulu ddim yn bresennol.