Mae Cyngor Sir Ynys Môn a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio i daclo problemau parcio anghyfreithlon ac anghyfrifol.

Gyda mwy nag erioed yn dewis ymweld â’r ynys yr haf hwn, mae parcio anghyfrifol mewn nifer o ardaloedd poblogaidd bellach yn destun pryder.

Cafodd problemau â pharcio anystyriol eu hadrodd fwyaf diweddar yn ardal Llanbadrig ond mae problemau tebyg wedi eu gweld mewn nifer o ardaloedd arfordirol eraill o amgylch yr ynys.

Dywedodd Cynghorydd Bob Parry, deilydd portffolio Priffyrdd Cyngor Môn: “Mae nifer o gymunedau Ynys Môn yn profi nifer uchel o ymwelwyr ar hyn o bryd sy’n golygu problemau parcio mewn ardaloedd lle mae traethau poblogaidd ac ardaloedd arfordirol eraill.”

Peryglu

“Rydym yn cydweithio â’n partneriaid er mwyn annog modurwyr i ddefnyddio synnwyr cyffredin pan fyddant yn ymweld ag Ynys Môn er mwyn cadw’r ardal yn ddiogel i bawb.”

“Gofynnwn i bobl gynllunio eu teithiau ymlaen llaw ac os yw’r meysydd parcio yn llawn iddynt chwilio am leoliad addas arall a pheidio â pharcio ar y glaswellt wrth ymyl y ffordd, tir preifat na ger giatiau i gaeau.

“Cafwyd nifer o enghreifftiau’r haf hwn o bobl yn parcio mewn modd amhriodol ac yn peryglu gyrwyr eraill, beicwyr a cherddwyr ac yn achosi problemau mynediad difrifol i gerbydau’r gwasanaethau brys, ffermwyr a thrigolion. Mae hyn yn gwbl annerbyniol.

Anystyriol

“Ein neges yn syml yw y dylid mwynhau’r ardal ond drwy ddilyn y rheolau, maent yno i gadw pawb yn ddiogel. Os byddwch yn anwybyddu’r rheolau, rydych yn debygol o wynebu dirwy neu efallai y bydd eich cerbyd yn cael ei symud gan yr awdurdodau.”

Ychwanegodd y Rhingyll Ian Roberts, o Heddlu Gogledd Cymru, “Rydym yn cydweithio’n agos â’n partneriaid yng Nghyngor Sir Ynys Môn er mwyn ceisio lleihau’r risg o barcio anystyriol a pheryglus a’r effaith mae hyn yn ei gael ar gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr eraill y ffordd.

Peryglus

“Nid yn unig yw’r parcio anghyfrifol a pheryglus yr ydym wedi’i weld mewn rhai ardaloedd yn peryglu bywydau, mae hefyd yn atal mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys.

“Er ein bod yn gwerthfawrogi bod pobl yn dymuno mwynhau’r tywydd braf a’r golygfeydd godidog, rydym yn annog pobl i fod yn gyfrifol ac i feddwl am le y byddant yn parcio, ac i wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael gerllaw.

“Gallai unrhyw un a welir yn achosi rhwystr gael eu cerbyd wedi’i symud a byddai’n rhaid iddynt dalu am hynny hefyd. Gwrandewch ar y rhybudd os gwelwch yn dda.”