Mae’n “hanfodol” fod Llywodraeth Cymru’n ystyried a oes digon o gefnogaeth ariannol i gefnogi teuluoedd ar incwm isel dros yr hydref, yn ôl cyd-gadeiryddion Cynghrair Gwrthdlodi Cymru.
Rhaid iddyn nhw ystyried cyfres o gwestiynau er mwyn sicrhau nad yw miloedd o deuluoedd yn cael eu gadael heb rwyd ddiogelwch, meddai Ellie Harwood a Steffan Evans.
Wrth ddod drwy’r pandemig, mae nifer o’r rhaglenni oedd yn cynnig cefnogaeth ariannol i deuluoedd ar incwm isel dros y deunaw mis diwethaf wedi, neu ar fin, dod i ben.
Mae’r penderfyniad i dorri £20 yr wythnos oddi ar Gredyd Cynhwysol yn golygu bod traean o gartrefi â phlant yn byw ynddyn nhw yng Nghymru am gael £1,000 yn llai mewn incwm i’w wario bob blwyddyn.
Bydd y rhaglen ffyrlo hefyd yn dod i ben ym mis Medi.
Er bod rhai o raglenni cymorth Llywodraeth Cymru yn aros, megis prydau ysgol am ddim dros wyliau’r ysgol, mae pryderon bod mesurau eraill wedi cael eu cwtogi, meddai Ellie Harwood a Steffan Evans mewn blog ar wefan Sefydliad Bevan.
Cronfa Cymorth Dewisol
Dros yr wythnosau diwethaf, mae nifer y taliadau sydd wedi cael eu gwneud o’r Gronfa Cymorth Dewisol wedi gostwng yn sydyn.
Mae modd i bobol gael mynediad i’r gronfa am nifer o resymau, ar yr amod nad oes ganddyn nhw gynilion a’u bod nhw mewn argyfwng a heb fynediad at unrhyw arian.
Mae’r gronfa yno i helpu pobol sy’n dioddef tlodi eithafol.
Ar ddechrau’r pandemig, newidiodd Llywodraeth Cymru y gronfa fel ei bod hi’n cefnogi pobol yn well wrth wynebu heriau a gafodd eu creu gan gyfnodau clo a hunanynysu.
Roedd mwy o hyblygrwydd, cynyddu’r gyllideb a chaniatáu taliadau mwy rheolaidd yn golygu bod mwy o gartrefi’n gallu cael mynediad at y gronfa.
Ers mis Mawrth y llynedd, mae bron i 220,000 o daliadau ar gyfer costau byw angenrheidiol (EAPs) wedi’u gwneud drwy’r gronfa, gan dalu bron i £15m i gartrefi mewn angen.
Ddiwedd Mehefin, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gael gwared ar yr hyblygrwydd – dydi pobol ddim bellach yn gallu hawlio taliad drwy’r gronfa os ydyn nhw’n wynebu caledi yn sgil costau ychwanegol sydd wedi’u hachosi gan y pandemig.
‘Cyfnod heriol iawn’
“Tra bod cynnydd mewn taliadau wedi’u rhoi dan feini prawf EAPs normal yn gwneud iawn am effaith y newid, mae nifer y taliadau ariannol brys gafodd eu gwneud drwy’r Gronfa wedi haneru dros yr wythnosau diwethaf,” meddai Ellie Harwood, Rheolwr Datblygu Grŵp Gweithredu Cymru gyda’r Child Poverty Action Group, a Steffan Evans, Swyddog Ymchwilio Polisi gyda Sefydliad Bevan.
“Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod trydedd don yn dechrau yng Nghymru wrth i’r newid ddigwydd, gyda bron i 33,000 o blant yn methu mynd i’r ysgol yn sgil clystyrau Covid-19 yno.
“Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau â darpariaeth EAPs am rai rhesymau sy’n ymwneud â Covid, gallai lleihau hyblygrwydd olygu cyfnod heriol iawn i aelwydydd ar incwm isel.
“Mae yna rai cwestiynau pwysig o hyd sydd angen eu cydnabod cyn hydref anodd i bobol sy’n byw ar incymau isel yng Nghymru.
“Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n gweithredu i fynd i’r afael â phob un o’r cwestiynau hyn, fel bod miloedd o deuluoedd Cymreig ddim yn cael eu gadael heb rwyd ddiogelwch ddigonol yr hydref hwn.”
Mae’r cwestiynau hynny’n cynnwys:
- Wrth i Gredyd Cynhwysol gael ei gwtogi o £20 yr wythnos a ffyrlo yn dod i ben, a oes yna ddigon o hyblygrwydd yn system y Gronfa Cymorth Dewisol i ganiatáu i deuluoedd dderbyn sawl taliad, os oes angen, yn ystod yr hyn sy’n debyg o fod yn hydref ofnadwy o heriol?
- A fydd system y Gronfa Cymorth Dewisol yn dangos digon o hyblygrwydd i deuluoedd sy’n cael eu gwasgu gan gostau byw cynyddol yr hydref hwn, o ystyried fod costau bwyd a nwyddau’n debyg o gynyddu’n sylweddol?
- A fydd y Gronfa yn cefnogi teuluoedd gyda phlant sydd yn methu mynd i’r ysgol, os oes mwy o glystyrau Covid mewn lleoliadau addysg drwy gydol gweddill 2021? Roedd modd defnyddio’r Gronfa os oedd rhaid i blant aros gartref yn sgil achosion Covid, a bod hynny’n achosi costau ychwanegol.
- Sut fydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r Gronfa?
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym yn gwybod mai’r aelwydydd hynny yng Nghymru sydd eisoes mewn trafferthion ariannol sydd wedi’u taro galetaf gan y pandemig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Fe wnaethom weithredu’n gyflym i roi hwb sylweddol i’r cymorth y gallem ei gynnig fel Llywodraeth. Yn benodol, fe wnaethom newidiadau cyflym i’r Gronfa Cymorth Dewisol a gafodd £25.4m o gyllid yn ystod y pandemig.
“O ganlyniad i’r newidiadau hyn, roedd mwy o bobl yn gallu cael mwy o gymorth ariannol ar adeg dyngedfennol, yn enwedig pan oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod newid yr amser aros diangen am Gredyd Cynhwysol.
“Bydd ein Gweinidogion yn parhau i ystyried y ffyrdd gorau o gefnogi’r rhai sydd mewn trafferthion ariannol a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd cyfrifoldeb a gwneud y peth iawn.”