Mae Trafnidiaeth Cymru am ymgyrchu i atgoffa teithwyr i wisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus, wrth iddyn nhw ddatgelu y bu’n rhaid iddyn nhw rybuddio mwy na 50,000 o bobol yng Nghymru a’r Gororau am beidio â’u gwisgo.

Byddan nhw’n cydweithio â Heddlu Trafnidiaeth Prydain am wythnos i sicrhau bod pobol yn ymwybodol o’u dyletswyddau.

Mae’r rheolau ynglŷn â mygydau yn parhau i fod mewn grym ar drenau, bysus ac adeiladau gorsafoedd, er bod Llywodraeth Cymru wedi gostwng i lefel rhybudd sero ers dydd Sadwrn (Awst 7).

Er hynny, fydd dim rhaid i deithwyr eu gwisgo ar blatfformau gorsafoedd sydd heb do neu os yw rhywun wedi ei eithrio.

Mae mygydau wedi bod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ers Gorffennaf 27 y llynedd.

Diogelwch yn gyntaf

Ers dechrau eleni, mae Trafnidiaeth Cymru, yr Heddlu Trafnidiaeth a phartneriaid diogelwch eraill wedi rhybuddio mwy na 50,000 o bobl yng Nghymru a’r Gororau am beidio gwisgo mygydau.

Maen nhw hefyd wedi atal 2,000 o bobol rhag teithio ar eu trenau.

Mae Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru, wedi dweud eu bod yn cynyddu a gwella’r negeseuon ynglŷn â masgiau ar eu gwasanaethau.

“Wrth i gyfyngiadau lacio, rydyn ni am sicrhau ein cwsmeriaid mai eu diogelwch nhw yw ein blaenoriaeth ni o hyd ac oni bai eu bod nhw wedi’u heithrio, rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus,” meddai.

“Yn anffodus, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobol sydd ddim yn gwisgo mygydau ac rydyn ni’n mynd i ddefnyddio’r cyfle hwn i ymgysylltu â phobol ac atgyfnerthu’r neges bod gwisgo gorchudd wyneb yn helpu i’ch amddiffyn chi a’ch cyd-deithwyr.

“Bydd staff Trafnidiaeth Cymru a’r Heddlu Trafnidiaeth yn rhyngweithio â theithwyr, a bydd gennym ni nifer o negeseuon mewn gorsafoedd ac ar drenau.

“Rydyn ni hefyd yn ceisio gwella ein negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol a phan fydd pobol yn prynu tocynnau trwy ein gwefan a’n ap.

“Hefyd, mae pob cerbyd sydd gennym ni yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cymaint o gapasiti â phosib ar y rhwydwaith.”