Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud nad oes gan weinidogion Llywodraeth Lafur Cymru gynllun manwl ar gyfer gwella Maes Awyr Caerdydd.
Dylai’r maes awyr gael ei werthu i gwmni preifat oni bai bod cynllun “go iawn”, meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid.
Mae’r maes awyr yn “tanberfformio”, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig, gan gyfeirio at y ffaith fod 45 awyren wedi gadael Maes Awyr Bryste mewn pymtheg awyr ddoe (dydd Mercher, Awst 12), tra mai 31 awyren sydd fod i adael Caerdydd mewn saith diwrnod rhwng Awst 12 ac Awst 17.
Daw hyn wedi i weithredwyr Aer Lingus, Stobart Air, fynd i’r wal, ac wedi i Wizz Air gyhoeddi na fyddan nhw’n hedfan o Gaerdydd tan o leiaf haf 2022.
“Cynllun manwl”
“Mae gan Faes Awyr Caerdydd y potensial i fod yn hwb trafnidiaeth prysur, ond dw i methu gweld hynny’n digwydd dan y Llywodraeth Lafur Gymreig hon gyda’u diffyg gweithredu a diffyg uchelgais,” meddai Natasha Asghar.
“Rydyn ni angen gweld cynllun manwl gan weinidogion ym Mae Caerdydd ynghylch sut maen nhw’n mynd i wella’r maes awyr oherwydd mae’n amlwg nad oes ganddyn nhw un mewn lle ar y funud.
“Mae prosiect rhodres methedig Llafur wedi gweld niferoedd teithwyr yn gostwng 87% yn ystod y pandemig, gan olygu mai hwn yw’r maes awyr sydd wedi’i effeithio waethaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae newyddion Wizz Air na fydden nhw’n hedfan allan o’r maes awyr nes haf 2022 yn ergyd arall.
“Gyda bywyd yn dechrau dychwelyd i normal a gyda mwy o wledydd yn cael eu hychwanegu at restr werdd y llywodraeth ar gyfer teithio, mae’n hanfodol fod gweinidogion Llafur yn gweithredu nawr er mwyn cael mynd o awyrennau’n glanio a gadael Maes Awyr Caerdydd i helpu i adfer ein heconomi a’n diwydiant twristiaeth.
“Os nad yw’r Llywodraeth Lafur Gymreig hon yn gallu creu cynllun go iawn, yna efallai ei bod hi’n amser iddyn nhw werthu’r maes awyr i gwmni preifat sy’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud.”