Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau yn dilyn marwolaeth bachgen bach dwy oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bu farw’r bachgen yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd bnawn dydd Iau (12 Awst) ar ôl cael ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol mewn eiddo yn Broadlands, Pen-y-bont ar Ogwr nos Fercher (11 Awst) tua 8.30yh.

Dywed Heddlu’r De bod dynes 31 oed wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn cael ei chadw yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies: “Rwy’n deall bod y digwyddiad yma wedi achosi pryderon yn y gymuned leol ond mae’n rhaid i fi bwysleisio nad ydan ni’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r mater ar hyn o bryd.”

Mae wedi apelio ar bobl i beidio dyfalu am yr achos ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod “cyfnod hynod o anodd i bawb.”

Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i’r teulu.