Mae chwech o bobl wedi marw ar ôl achos o saethu yn Plymouth, meddai Heddlu Dyfnaint a Chernyw.

Bu farw dwy ddynes a dau ddyn yn y fan a’r lle yn ardal Keyham o’r ddinas, ynghyd a dyn arall y credir oedd yn gyfrifol am y saethu.

Cafodd dynes eraill driniaeth ar y safle ond bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Dywed yr heddlu bod eu teuluoedd wedi cael gwybod ac nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad. Nid yw’r heddlu’n trin y digwyddiad fel achos brawychol.

Yn ôl yr Aelod Seneddol lleol Luke Pollard bod rhagor o bobl yn cael triniaeth am eu hanafiadau un yr ysbyty.

“Rydw i wedi tristau’n ofnadwy bod un o’r rhai gafodd eu llad yn saethu Keyham yn blentyn o dan 10 oed,” meddai.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Biddick yn ardal Keyham yn y ddinas toc wedi 6yh nos Iau (12 Awst).

Yn ôl llygad dystion roedd gweiddi ac ergydion gwn i’w clywed a dywedodd un ddynes ei bod wedi gweld dyn yn saethu pobl “ar hap”.

Dywed yr heddlu bod eu hymchwiliadau’n parhau.