Fe fydd hyd at 600 o filwyr y Deyrnas Unedig yn cael eu hanfon i Afghanistan er mwyn helpu dinasyddion Prydeinig i adael y wlad, meddai’r Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace.
Mae disgwyl iddyn nhw gyrraedd o fewn y dyddiau nesaf i “roi cymorth i ddiplomyddion yn Kabul”. Daw hyn ar ôl i bennaeth lluoedd arfog y DU, y Cadfridog Syr Nick Carter rybuddio bod yna risg y gallai brawychiaeth ryngwladol ac eithafiaeth ddal eu gafael yn Afghanistan unwaith eto.
Dim ond nifer fechan o staff sydd ar ôl yn llysgenhadaeth Prydain yn Kabul gyda’r pwyslais ar roi cymorth i’r rhai sydd angen gadael y wlad ar frys.
Mae dinasyddion Prydeinig wedi cael rhybudd i adael mor fuan â phosib wrth i’r Taliban barhau i feddiannu rhannau helaeth o’r wlad.
Mae’r Taliban wedi cipio dinasoedd Kandahar a Herat a bellach mae 12 o 34 o brifddinasoedd taleithiol Afghanistan yn eu meddiant.