Mae tad y gantores Britney Spears wedi cytuno i gamu o’i rôl yn goruchwylio ei chyllid.
Er bod cyfreithwyr ar ran Jamie Spears yn dweud nad “oes yna sail wirioneddol” i’w atal neu ei wahardd o’r rôl, bydd e’n camu nôl o’r rôl.
Daw hyn wedi i’r gantores 39 oed fynnu bod ei thad yn gadael ei rôl, gan honni fod y trefniant cyfreithiol cymhleth sy’n rheoli ei bywyd a’i gyrfa yn “gamdriniaeth”.
Roedd tîm cyfreithiol Britney Spears wedi cyflwyno deiseb i atal Jamie Spears o’r trefniant, ac roedd disgwyl i farnwr ddod i benderfyniad fis nesaf.
Wrth gyflwyno’r newid i’r Goruchaf Lys yn Los Angeles, dywedodd Jamie Spears ei fod e wedi bod yn “darged di-baid i ymosodiadau na ellir eu cyfiawnhau” ond nad yw e’n “credu mai brwydr gyhoeddus gyda’i ferch dros ei wasanaethau parhaus fel gwarchodwr fyddai’r peth gorau iddi”.
“Felly er ei fod e’n gwrthwynebu’r cais anghyfiawn hon i gael gwared arno, mae Mr Spears yn bwriadu gweithio gyda’r llys a thwrnai newydd ei ferch i baratoi ar gyfer symud yn drefnus at warchodwr newydd.”
“Cyfiawnder”
Fe wnaeth cyfreithiwr newydd Britney Spears, Mathew Rosengart, groesawu’r newyddion a’i ddisgrifio fel “cyfiawnder” i’w gleient.
“Fe wnes i gyhoeddi yn y llys ar 14 Gorffennaf ei bod hi, ar ôl 13 mlynedd, yn amser i Mr Spears gael ei atal neu ei wahardd fel gwarchodwr, ac y byddwn i a fy nghwmni yn gweithio’n gyflym a brwd i gyflawni hynny,” meddai.
“Rydyn ni’n falch fod Mr Spears a’i gyfreithiwr wedi ildio heddiw. Mae’n gyfiawnder i Britney. Rydyn ni’n siomedig, fodd bynnag, gan eu hymosodiadau gwarthus a pharhaus ar Ms Spears ac eraill.”
Roedd Jamie Spears yn rheoli ystâd ei ferch ers 2008, wedi i lys benderfynu ei bod hi methu edrych ar ôl ei hun wedi iddi gael cyfnodau o broblemau iechyd meddwl.
Bu’n gyfrifol am ei materion personol hefyd nes 2019 hefyd, ac mae’r ymgyrch #FreeBritney wedi dennu cryn sylw yn ddiweddar.