Mae’r cerddor Endaf yn ôl gyda ffrwyth llafur ei gydweithio diweddaraf gyda’r artistiaid skylrk a Fairhurst, sef y gân ‘Gweld Dy Hun’.
Daeth y cydweithio o ganlyniad i brosiect ‘Sbardun Talent Ifanc’ sy’n cael ei redeg gan Endaf, mewn partneriaeth gyda Tŷ Cerdd a’r Galeri yng Nghaernarfon.
Mae modd clywed y gân ar Soundcloud.
Cydweithiodd Endaf â’r cerddor ifanc o Fethesda Dafydd Hedd, a’r DJ Mike PR ar y gân gyntaf ddaeth yn sgil y prosiect – sef ‘Niwl’.
Cadwodd y gân ei lle ar Restr Chwarae Yr Wythnos Radio Cymru am sawl wythnos ac fe wnaeth y tri ymddangos ar raglen Heno i drafod y prosiect a’r gân.
Ond pwy ydi skylrk a Fairhurst sydd wedi cydweithio ag ef y tro hwn?
Cyfuno cerddoriaeth ac adrodd straeon yw’r syniad tu ôl i brosiect skylrk, oedd yn fuddugol ym Mrwydr y Bandiau eleni.
Mae cerddoriaeth rap yn ddylanwad mawr ar Hedydd Ioan, 18 oed, y cerddor wrth wraidd skylrk, gyda chymeriad skylrk yn edrych ar ochr dywyllach bywyd, ac ystyried effeithiau emosiynol a meddyliol hynny.
Mae barddoniaeth Gymraeg hefyd yn ysbrydoliaeth i’r prosiect.
Ar y llaw arall, DJ a chynhyrchydd ifanc yw Fairhurst.
Daw ei ysbrydoliaeth o gyfnod yr 80au, ac mae yn arbenigo yn y genres Disco, House & Techno.
Dywed Endaf ei fod mwynhau cydweithio â phobol ifanc ar gyfer y prosiect.
“Ers tipyn dw i wedi bod yn gweithio efo vocalists gwahanol eniwe, a wnes i weld bod Tŷ Cerdd yn cynnig funding ar gyfer creu prosiectau i helpu pobol ifanc i greu miwsig,” meddai wrth golwg360.
“Ma’ raid i mi ddiolch i Tŷ Cerdd am y funding ac i’r Galeri am gynnal y prosiect.
“Felly wnes i benderfynu rhoi’r prosiect yma at ei gilydd lle fysa artistiaid ifanc yn cael y cyfle i wneud cais i weithio efo fi a dod i’r stiwdio i greu tiwns proffesiynol.
“Ges i lot o bobol yn trio ac wedyn wnes i ddewis pedwar artist er mwyn gwneud dwy gân.
“Ac er mwyn cael y mwya’ allan ohono fo wnes i benderfynu gweithio efo un vocalist ac un producer.
“A digwydd bod, uffar o timing handi, mae Hedydd newydd ennill Brwydr y Bandiau felly mae hynna wedi gweithio allan yn cŵl hefyd.”
Ond pam dewis cydweithio gyda Skylrk (Hedydd Ioan) ar gyfer y gân hon?
“Felly fel rhan o’r application process, wnes i ofyn i bobol anfon enghreifftiau o’u gwaith nhw, y miwsig maen nhw wedi ei greu o’r blaen ac ati.
“Roedd ganddo fo sianel YouTube oedd efo ambell diwn arno fo, ac ro’n i’n rili licio un o’r caneuon roedd o wedi ei ‘sgwennu, ro’n i’n teimlo ei fod o’n ‘sgwennu yn dda a bod yna vocals rili cryf arno fo.
“Ond hefyd roedd yna fideos efo’i ganeuon o ac roedden nhw’n amazing, ac wedyn nes i ffeindio allan na dyna ydi’i betha’ fo, videographer ydi o.
“Felly yn amlwg ro’n i’n gallu dweud ei fod o’n dalentog mewn lot o ffurf gwahanol ac ro’n i’n meddwl y basa fo’n cŵl gallu gweithio efo fo yn y stiwdio.”
“Profiad cŵl”
Beth felly wnaeth ysgogi Endaf i gydweithio â phobol ifanc?
“Ro’n i’n gwybod fod yna lot o bobol allan yna oedd yn rili talentog ac ella’n atgoffa fi o pan o’n i’n ifanc… ella bod gen i’r talent ond ddim ar radar neb.
“Felly ro’n i am roi fy hun allan yna afy dweud mod i’n fodlon gweithio efo pobol ta waeth faint o brofiad oedd ganddyn nhw, gyn belled bod nhw’n angerddol ac yn dda am be’ maen nhw’n ei wneud.
“Mae o wedi bod yn brofiad cŵl i fi, ac maen nhw i gyd wedi bod yn hollol broffesiynol.
“Ond be wnes i sylwi oedd bod hyn yn massive deal iddyn nhw, oedd lot ohonyn nhw heb wneud cyfweliadau ac ati o’r blaen, heb gael lot o sylw efo tiwns ar radio, ac mae o’n rili neis gwybod bod o’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw.
Bŵgi
Nid cydweithio â cherddorion ifanc yw’r unig brosiect y mae Endaf wedi bod yn gweithio arno yn ddiweddar.
Mae’r DJ gweithgar hefyd wedi ymgymryd â’r dasg o adfywio bywyd nos Caernarfon gan lansio ei nosweithiau newydd ‘Bŵgi’ yng nghlwb nos Levels ar Faes y dref.
Cafodd y noson gyntaf ei chynnal y penwythnos diwethaf, ac roedd Endaf yn hapus iawn.
“Mae’r ymateb wedi bod yn boncyrs i fod yn onest,” meddai.
“Ro’n i’n gobeithio y bydda fo, ac ro’n i’n meddwl y bydda na jans da iddo fo fod achos ma’ pawb wedi bod mewn lockdown ers blwyddyn a hanner.
“Ond dw i’n meddwl mai be’ sy’n rili cŵl amdano fo ydi, dw i’n hogyn o Gaernarfon a dw i erioed rili wedi DJo llawer yna achos doedd y venue ddim rili’n bodoli ar ei gyfer o.
“Ro’n i wedi bod isio gwneud rhywbeth yn dre ers blynyddoedd a’r unig beth oedd yn stopio fi oedd bo’ fi ddim rili isio gwneud o mewn pub, ti’n gwybod?
“Ond rŵan efo Levels yn agor, nes i feddwl ‘alla i wneud rhywbeth efo hwn’ a’r twist na efo enw kind of Cymraeg efo Bŵgi… cadw fo’n relevant.
“Ac ia mae o wedi bod yn grêt, ma’ gena ni dros fil o ddilynwyr ar Instagram y barod ac mae yna lot o ddiddordeb wedi bod yno fo felly gobeithio y bydd o’n rhywbeth sy’n cario ‘mlaen long term rwan.”