Bydd sioeau theatr awyr agored yn cael eu cynnal ym Mharc Gwledig Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin yr wythnos nesaf.
Mae Theatrau Sir Gâr, gwasanaeth theatr Cyngor Sir Gaerfyrddin, yn cynnal rhaglen o sioeau gwahanol rhwng Awst 21 a 25, gan gynnwys amrywiaeth o adloniant i bob oedran.
Bydd llwyfan dros dro yn cael ei godi ar gyfer digwyddiad ‘Theatrau Sir Gâr yn y Parc’, a bydd yn rhaid i gynulleidfaoedd ymrwymo i reolau Covid-19 y cwmni, sy’n cynnwys cadw at grwpiau o hyd at chwe pherson.
Cynulleidfaoedd ‘wedi gweld eisiau hyn’
Mae’r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn dweud bod y Cyngor Sir yn “edrych ymlaen” at groesawu’r digwyddiad i Barc Pen-bre.
“Rydym yn falch iawn o gynnal perfformiadau theatr byw yn y sir unwaith eto ar ôl cyfnod mor hir o fod ar gau yn ystod y pandemig, ac rydym yn gwybod fod ein cynulleidfaoedd wedi gweld eisiau hyn,” meddai.
“Bydd hwn yn gyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd a mwynhau adloniant byw unwaith eto yn amgylchedd hyfryd un o fannau prydferth mwyaf poblogaidd Sir Gaerfyrddin.
“Mae amrywiaeth o adloniant at ddant pawb ac mae ein timau parc gwledig a thimau theatr yn edrych ymlaen at groesawu teuluoedd a pherfformwyr.”
Rhai o bigion y rhaglen:
- ‘Trychfilod a’r Campau Campus’ – Dydd Sadwrn, Awst 21
- Clwb Comedi – Nos Sadwrn, Awst 21
- Diwrnod ar thema ’dawns’ – Dydd Sul, Awst 22
- ‘Gwlad yr Asyn’ – Nos Lun, Awst 23 a Nos Fawrth, Awst 24
- ‘Y Llew Tu Mewn’ – Dydd Mercher, Awst 25
Mae modd archebu tocynnau ar wefan www.theatrausirgar.co.uk, ond dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael erbyn hyn, yn ôl y trefnwyr.