Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Charli Britton, drymiwr gyda nifer o fandiau amlyca’r sîn roc Gymraeg yn y 1970au.

Roedd yn aelod o Edward H Dafis, Hergest ac Injaroc, ac fe fu hefyd yn chwarae fel aelod o fandiau Dafydd Iwan a John ac Alun.

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd, ac fe aeth yn ei flaen i astudio dylunio graffeg yn y brifysgol yn Llundain, lle cafodd ei ddylanwadu gan gerddoriaeth band Nick Simper, cyn-fasydd Deep Purple.

Dychwelodd i Gymru a phrynu drymiau cyn dod yn berfformiwr ei hun.

Bu’n byw yng Nghaernarfon ar ôl gadael Caerdydd, ac roedd yn ddrymiwr sesiwn ac yn diwtor drymiau.

Yn ei waith fel dylunydd, fe fu’n dylunio ar gyfer papur bro Dyffryn Nantlle, Lleu.

Teyrngedau

“Rydym yn meddwl am deulu a chyfeillion Charli Britton heddiw,” meddai cwmni Recordiau Sain wrth dalu teyrnged iddo.

“Colled fawr i Gymru ac i gerddoriaeth Cymru yw colli Charli – un a wnaeth gyfraniad enfawr.

“Dewin y drymiau. Diolch amdano.”

Un arall sydd wedi talu teyrnged iddo yw Welsh Whisperer.

“Trist clywed am Charli Britton neithiwr,” meddai.

“Cofio cael lot o hwyl gyda fe yn tynnu lluniau ar gyfer cloriau albyms ers y dechrau.”

Charli Britton

Charli Britton: teyrnged i “ffrind annwyl a dyn diymhongar, tawel, diffuant ac unigryw”

Alun Rhys Chivers

Roedd Malcolm ‘Slim’ Williams yn un o ffrindiau penna’r drymiwr, sydd wedi marw’n 68 oed ar ôl salwch byr