Mae’r drymiwr Charli Britton wedi cael ei ddisgrifio fel “ffrind annwyl”, “dyn diymhongar, tawel, diffuant ac unigryw” ac fel “cerddor arbennig”.

Fe fu golwg360 yn siarad â dau o’r bobol oedd yn ei adnabod e orau – Cleif Harpwood, oedd yn aelod o’r band Edward H. Dafis gyda Charli Britton, ac un o’i ffrindiau pennaf, y ffotograffydd ac awdur Malcolm ‘Slim’ Williams.

Bu farw Charli Britton neithiwr (nos Sadwrn, Awst 14) yn 68 oed ar ôl salwch byr.

‘Unigryw’

“Mae’r gair yn cael ei orddefnyddio trwy’r amser, ond mi roedd Charles Britton yn unigryw,” meddai Malcolm Williams, wrth dalu teyrnged i’w ffrind a chyd-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.

“Mi gofia i fe fel ffrind annwyl, fel dyn diymhongar, tawel a diffuant ac un gair – ac mae’r gair yn cael ei orddefnyddio trwy’r amser – ond mi roedd Charles Britton yn unigryw.

“Cychwynnodd ei yrfa yn Ysgol Rhydfelen mewn amryw eisteddfodau ac ati, ac mi fuodd e’n chwarae i’r Cyffro, y band merched gwreiddiol, gyda’i chwaer Eirlys, un o’r merched oedd yn canu yn hwnnw.

“A Charles a finne, a finne’n ‘roadie’ am ychydig yn teithio i bellafoedd byd, o Rydfelen i Lanpumsaint. Roedd gig ganddyn nhw yn fan’na a’r merched ychydig bach yn hŷn na ni a bydden ni’n gadael nhw at eu pethau.

“A Charles a finne yn mynd i’r festri yn y Neuadd Goffa yn Llanpumsaint, a byddai rhywun yn dweud “Helpwch eich hunain i fwyd, bois!” a bydden ni’n mynd mewn ac yn dechrau bwyta’r teisennod ac ati – ond gafon ni stŵr wedyn am fynd mewn achos do’n ni ddim yn gwybod fod y boi yn cellwair â ni!

“Ro’n ni’n mynd mewn i bob math o ddireidi fel’na, ond mi dyfon ni gyda’n gilydd trwy’r blynyddoedd.”

Dylanwad y Beatles ar y cerddor ifanc

Buan iawn y daeth Charli Britton dan ddylanwad y Beatles, ac fel yr eglura Malcolm ‘Slim’ Williams, drymiau Ringo Starr oedd gan y drymiwr ifanc yn gynnar iawn yn ei yrfa wrth iddo fynd yn ei flaen i chwarae mewn nifer o fandiau yng Nghymru ac yn Llundain, lle’r aeth yn fyfyriwr.

“Y Beatles oedd y peth gorau ddigwyddodd yn ein bywydau ni ’nôl yn y ’60au,” meddai.

“Roedd Charles yn gwneud cwrs graffeg sylfaen yng Ngholeg Celf Cymru ac wedyn mi aeth e ymlaen i Goleg Ealing yn Llundain, un o’r colegau graffeg cyfoes gorau yn y wlad ar y pryd.

“Mi raddiodd e o fan’na, a fan’na yn Llundain roedd e’n aelod o fandiau gyda phobol eraill. Roedd band o’r enw ‘Boots’ ganddo fe, band Saesneg, ac wedyn wrth reswm, fe ddaeth e’n ôl ac ymuno â hen gyfaill, Cleif Harpwood, a ffurfio Edward H. gyda Hefin [Elis] a John [Griffiths] a Dewi [‘Pws’ Morris], a rheiny oedd y grŵp cyfoes Cymraeg cynta’, yn fy marn i.

“Dw i’n gwybod fod grwpiau eraill wedi bod, fel Y Blew ac ati, ond nod Edward H. oedd cynnig pethau’n broffesiynol ac mi wnaethon nhw fyw y bywyd roc a rôl, ac mi fues i’n ‘roadie’ iddyn nhw am ychydig hefyd pan o’n i’n cael cyfle.

“Roedd yna ormod o droeon trwstan ac roedd e’n fywyd roc a rôl go iawn, yn chwerthin a mwynhau!”

‘Act ddwbwl’ gyda Dewi ‘Pws’ Morris

Ac mae Cleif Harpwood yn cofio Charli Britton fel “cymeriad ffraeth, direidus iawn”, gan ddweud ei fod e a Dewi ‘Pws’ Morris “fel act ddwbwl”.

“Ro’n nhw wir yn llond llaw gyda’i gilydd!” meddai’r canwr wrth golwg360.

“Wi’n credu fyddwn ni, fel oedden ni gyda John, yn rhyw fath o frawdoliaeth.

“Ro’n ni’n gweld ein hunain fel brodyr yn fwy na dim byd arall.

“Roedd perthynas mor agos â hynny gyda ni.

“Mae’r cyfeillgarwch a’r cysylltiad yna wedi aros achos, pan ddechreuais i H a’r Band yn 2011, roedd e am fod yn rhan o hwnna’n syth felly roedden ni’n ffodus fod gyda ni bedwar o gyn-aelodau Edward H. yn rhan o’r band yna ac hefyd cerddorion eraill wedi dod aton ni.

“A gaethon ni wyth neu naw mlynedd o barhau i chwarae.

“Y gig ola’ wnaethon ni gyda Charles oedd yr un yn Theatr Bryn Terfel ychydig cyn y pandemig.

“Gyda John [Griffiths] a fe wedi mynd, mae yna adran rhythm dda iawn i gael yn y nefoedd!

“Mae’n golled fawr.

“Ry’n ni’n cydymdeimlo’n fawr ag Eirlys, Ann a’i feibion, Siôn a Rhys.”

‘Cyfraniad aruthrol i fywyd cyfoes Cymru’

Ac yntau wedi bod yn ddrymiwr gyda Edward H. Dafis, Injaroc, Dafydd Iwan a’r Band, John ac Alun, Herges ac Ac Eraill, ymhlith bandiau eraill, mae Malcolm Williams yn teimlo bod ei ffrind yn dal i “wella fel drymiwr bob dydd” ac yn trosglwyddo’i brofiad a’i wybodaeth i’r genhedlaeth nesaf o ddrymwyr.

“Yn ddiweddar, fi’n gwybod fod e wedi bod yn dysgu drymiau i Ganolfan William Mathias yn Galeri yng Nghaernarfon, a fi’n siŵr bod yna bobol ifanc ma’s fan’na sydd wedi dod dan ddylanwad Charles yn gwerthfawrogi’n fawr ei arbenigedd e,” meddai.

“Dwi’n gwybod cystal athro fyddai Charles, er nad oeddwn i wedi cael gwersi drymiau ganddo fe, achos mi fuon ni’n dau ers dwy, tair, pedair blynedd, erbyn hyn, yn chwarae’r iwcelele hefo’n gilydd.

“Yn ystod y cyfnod clo pan oedd amser yn caniatáu, roedd e’n dod fan hyn i ganu, a dyna’r atgof diwethaf sydd gen i o Charles, finne a fe yn chwarae tiwns gwerin Cymreig yn yr ardd a’r haul yn tywynnu ac yn gwenu ar ein gilydd yn morio mwynhau.”

Taith gofiadwy drwy Gymru

Malcolm ‘Slim’ Williams (cefn, chwith) Wynne Lewis (cefn, dde), Barry Michael Jones (blaen, chwith) a Charli Britton (blaen, dde)

Atgof arall sy’n sefyll allan i Malcolm Williams yw’r daith gafodd y ddau drwy Gymru pan oedden nhw newydd adael yr ysgol.

“Ein harwr Cymraeg ni ar y pryd oedd Meic Stevens, ac fe aethon ni ar y daith eang yma o Gymru ac aethon ni ddim pellach na Solfach!” meddai wrth gofio’n ôl.

“A fan’na fuon ni am wythnos yn cerdded ac yn yfed ac yn canu.

“A buon ni’n ddigon twp a ffôl i osod ein pabell ar ymyl y cae oedd yn serth. Yn y bore, droiais i rownd a do’n i ddim yn gweld Charles yn unman. Ble’r yffarn oedd e wedi mynd?!

“Edrychais i rownd a dim ond pen Charles oedd yn y babell, roedd e wedi llithro lawr y llethr.

“Wnes i roi fy mhenelin yn ei ysgwydd e. “Tal! Be’ ti’n gwneud?” medde fi.

“Hei!” medde fe, “Wy’n oer!”

‘Ringo Starr Cymreig’

Fe wnaeth y cyfeillgarwch bara hyd y diwedd, meddai, ac roedd y ddau yn galw eu hunain yn Laurel a Hardy.

“Os gwelech chi ein cyrff ni, Charles yr un bach tenau a finne’n un mawr, does dim eisiau dyfalu pwy oedd pa un!” meddai, gan ychwanegu, y tu hwnt i’r doniolwch a’r direidi, fod gan ei ffrind feddwl craff.

“Roedd Charles hefyd yn fachan dwys ofnadw.

“Roedd e’n meddwl yn fawr, roedd e’n ymwybodol o lawer iawn o bethau ac yn cadw lot o bethau iddo fe ei hun.

“Rwy’ wedi sôn am ei yrfa fe fel un o’r sêr roc Cymreig, ac rwy’n wirioneddol yn meddwl fod e’n rhyw ‘Ringo Starr Cymreig’.

“Ac rwy’n gwybod fod Ringo yn arwr iddo fe, ond roedd ei waith dylunio a graffeg e heb ei ail ac mae ei gyfraniad e i lyfrau Cymraeg yn ddirifedi. Maen nhw’n anhygoel.

“Y dewis cynta’ i fi i wneud gwaith graffeg oedd Charles, ac mi gymerodd e at DVDs a chreu gwefannau yn rhwydd.

“Felly mae e wedi cyfrannu i fywyd cyfoes Cymru yn aruthrol ac yn ddwfn, ac yn safonol ofnadw hefyd.”

Edward H Dafis

Y drymiwr Charli Britton wedi marw’n 68 oed

Mae lle i gredu iddo ddioddef cyfnod byr o salwch