Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn dweud bod ei llywodraeth yn barod i helpu ffoaduriaid o Affganistan yn sgil yr helynt presennol yno.

Mae hi wedi tynnu sylw at waith awdurdodau Canada, sydd eisoes wedi croesawu awyren o Affganistan sy’n cludo ffoaduriaid.

Mae’r wlad ar y dibyn wrth i’r Taliban fynd yn nes at y brifddinas Kabul, ac mae’r trigolion yn parhau i’r wlad gael ei dymchwel.

Mae disgwyl i Ganada helpu i ailgartrefu hyd at 20,000 o ffoaduriaid sydd wedi’u bygwth gan y grŵp Islamaidd.

Mae Nicola Sturgeon yn galw ar Lywodraeth Prydain i “gynnig cymaint o loches â phosib i Affganiaid mewn perygl”.

“Fel y gwnaethon ni gyda ffoaduriaid o Syria, mae @scotgov yn barod i chwarae ein rhan yn llawn a gwneud popeth allwn ni i helpu’r rhai mewn perygl o ganlyniad i’r sefyllfa erchyll sy’n datblygu.”

Disgwyl galw aelodau seneddol yn ôl

Yn ôl ffynhonnell yn Downing Street, fe fydd Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn galw aelodau seneddol yn ôl yr wythnos hon er mwyn trafod y sefyllfa.

Mae lle i gredu bod lluoedd arfog Prydain wedi’u hanfon i Kabul eisoes er mwyn sicrhau diogelwch trigolion gwledydd Prydain sydd yn y ddinas.

Mae pryderon y gallai’r brifddinas gael ei dymchwel o fewn dyddiau neu oriau, hyd yn oed.

Yn ôl Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, mae gan y Deyrnas Unedig “ddyletswydd foesol i bobol a llywodraeth Affganistan”.

“Mae cwestiynau difrifol ynghylch y dull o ymadael â’r wlad, diffyg cefnogaeth i lywodraeth Affganistan, a’r toriadau diofal i gymorth.

“Peidiwch â chamddeall hyn – mae absenoldeb strategaeth go iawn a chynllunio ystyrlon yn gwneud hwn yn fethiant difrifol mewn arweinyddiaeth ac yn un o’r trychinebau polisi tramor cyfoes mwyaf.”