Mae daeargryn yn mesur 7.2 ar raddfa Richter wedi taro Haiti, gan ladd o leiaf 304 o bobol ac anafu o leiaf 1,800 yn rhagor, a dinistrio cannoedd o gartrefi.

Bu’n rhaid i bobol rhuthro allan i’r strydoedd mewn ymgais i gadw’n ddiogel ac i helpu pobol eraill aeth yn sownd o dan y rwbel wrth i dai, gwestai ac adeiladau eraill gwympo.

Fe darodd y daeargryn dde-orllewin y wlad oedd eisoes yn dioddef yn sgil y pandemig Covid-19, yr Arlywydd Jovenel Moises yn cael ei ladd, a thrais eang ymhlith gangiau.

Roedd canolbwynt y daeargryn ryw 78 milltir o’r brifddinas Port-au-Prince, yn ôl arbenigwyr, sy’n rhybuddio y gallai’r sefyllfa waethygu erbyn yr wythnos nesaf, gyda Storm Drofannol Grace ar ei ffordd yfory (dydd Llun, Awst 16) neu ddydd Mawrth (Awst 17).

Mae ôl-gryniadau wedi cael eu teimlo gan bobol sydd eisoes wedi colli eu cartrefi neu’n ofni y gallai eu cartrefi ddymchwel ar eu pennau a’u gorfodi i gysgu ar y strydoedd.

“Dim ond yr Iesu sydd gyda ni nawr,” oedd ymateb un o’r trigolion.

Ymateb i’r argyfwng

Mae’r prif weinidog Ariel Henry ar ei ffordd i gynorthwyo’r ardaloedd sy’n dioddef waethaf, lle mae trefi cyfan wedi’u dinistrio ac ysbytai’n orlawn.

Mae e wedi cyhoeddi argyfwng am fis ar draws y wlad, gan ddweud na fyddai’n gofyn am gymorth rhyngwladol hyd nes bod maint y broblem yn hysbys, ond mae’r Unol Daleithiau, yr Ariannin a Chile eisoes wedi dechrau’r broses o gynnig gymorth.

Mae cyn-seneddwr yn y wlad hefyd wedi llogi awyren i symud pobol sydd wedi’u hanafu o Les Cayes i Port-au-Prince am gymorth meddygol.

Yn ôl amcangyfrifon cynnar, mae o leiaf 860 o gartrefi wedi’u dinistrio a mwy na 700 wedi’u difrodi, ac mae ysgolion, ysbytai, swyddfeydd ac eglwysi hefyd wedi cael eu heffeithio.