Mae Ashraf Ghani, Arlywydd Affganistan, wedi ffoi wrth i’r Taliban gryfhau eu gafael dros y wlad.

Mae’r grŵp Islamaidd yn symud yn nes at y brifddinas Kabul o hyd, gan brysur ddod ag ymdrechion y Gorllewin i ailadeiladu’r wlad dros gyfnod o ddau ddegawd i ben.

Mae Ghani wedi hedfan o’r wlad, yn ôl dau swyddog dienw fu’n siarad heb awdurdod ag Associated Press.

Daeth cadarnhad o’r newyddion yn ddiweddarach gan Abdullah Abdullah, pennaeth Cyngor Cymodi Cenedlaethol Affganistan.

“Fe adawodd e Affganistan ar adeg anodd, boed i Dduw ei ddwyn i gyfrif,” meddai.