Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “beidio â throi cefn” ar Affganistan wrth i’r Taliban gryfhau eu gafael ar rannau helaeth o’r wlad.
Daw ymateb y blaid ar ôl i Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, roi’r hawl i Lywodraeth Prydain alw aelodau seneddol yn ôl i San Steffan i drafod y sefyllfa.
Mae nifer y staff diplomyddol o’r Deyrnas Unedig sydd yn y wlad wedi gostwng, ond mae’r llysgennad yn dal yno, yn ôl y Swyddfa Dramor.
Mae ymdrechion ar y gweill i sicrhau y gall trigolion y Deyrnas Unedig adael y wlad yn ddiogel.
Bydd aelodau seneddol yn ymgynnull ddydd Mercher (Awst 18) rhwng 9.30yb a 2.30yp.
‘Mae’r byd yn edrych mewn arswyd ar y trychineb’
Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd â Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, a Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion.
Yn y datganiad hwnnw, maen nhw’n tynnu sylw at y chwarter miliwn a mwy o fywydau sydd wedi’u colli ymhlith sifiliaid, y miloedd yn rhagor sydd wedi’u dadleoli a’r 457 o filwyr fu farw, yn ogystal â rhai sydd wedi’u gadael yn ddigartref ac yn dioddef o anafiadau meddyliol a chorfforol.
“Mae’r byd yn edrych mewn arswyd ar y trychineb sydd yn datblygu yn Affganistan,” meddai’r aelodau seneddol.
“Bydd y goblygiadau i ddinasyddion Affganistan yn erchyll – yn anad dim i ferched a merched sydd, yn ôl adroddiadau, eisoes yn cael gwrthod mynediad i addysg, gwaith, rhyddid sylfaenol a hawliau sifil gyda chyfyngiadau creulon a llym yn cael eu gosod arnyn nhw.”
‘Cyfrifoldeb’
Yn ôl y tri, mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig “gyfrifoldeb i ddarparu lloches i’r holl bobol o Affganistan a wasanaethodd ochr yn ochr â lluoedd Prydain sydd bellach mewn perygl o gael eu targedu gan y Taliban”.
Mae’r rhain, meddai’r aelodau seneddol, yn cynnwys cyfieithwyr, y rhai sydd wedi’u hyfforddi fel swyddogion lluoedd arbennig, a’r rheiny oedd wedi sefydlu ysgolion ar gyfer merched ac sydd wedi helpu’r awdurdodau y tu hwnt i’r llywodraeth.
“Rhaid iddynt hefyd drefnu fisas ar frys ar gyfer y 35 hynny sydd i fod i ddechrau ysgoloriaethau ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig o fewn wythnosau ond sydd bellch wedi cael gwybod bod eu lleoedd wedi’u hatal oherwydd na ellir trefnu eu fisâu mewn pryd.
“Rydym yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gymuned ryngwladol i beidio â throi eu cefnau ac yn hytrach parchu eu rhwymedigaethau a phwyso ar unrhyw lywodraeth yn Affganistan yn y dyfodol i amddiffyn a chynnal enillion cynyddol a wneir mewn cyfiawnder ac addysg.”