Mae’r Taliban yn barod i gyhoeddi eu bod nhw wedi cipio grym a’u bod nhw am ffurfio Emirad Islamaidd Affganistan.

Mae disgwyl i’r cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud o’r palas arlywyddol yn y brifddinas Kabul.

Bydd yn golygu dychwelyd i hen enw’r wlad pan oedd yn cael ei rheoli gan y Taliban cyn i’r Gorllewin fynd i mewn a’u symud nhw ar ôl ymosodiadau 9/11.

Mae bron bob aelod o Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau bellach wedi gadael eu swyddfeydd ac yn mynd am y maes awyr.

Mae’r datblygiad diweddara’n golygu bod lluoedd yr Unol Daleithiau bellach yn ceisio gadael y wlad yn ddiogel, rhywbeth sydd wedi synnu’r Arlywydd Joe Biden.

Mae Biden yn cael ei feirniadu gan y Gweriniaethwyr erbyn hyn am fethu â rheoli’r sefyllfa, ddau ddegawd ar ôl y rhyfel yn Affganistan pan gafodd Osama bin Laden ei drechu.

Wrth i’r Taliban baratoi i reoli’r wlad, mae Antonio Guterres, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, yn annog y Taliban i warchod bywydau pobol gyffredin y wlad ac i sicrhau bod cymorth dyngarol yn eu cyrraedd.