Mae trigolion Cymru ymhlith y rhai sy’n fwyaf tebygol o rentu eiddo ar ôl gwerthu eu tai, yn ôl ymchwil newydd.
Dywed yr asiantaeth dai Hamptons fod 15.3% o’r cytundebau i rentu wedi’u llofnodi gan bobol sydd wedi gwerthu eu tai.
16.4% yw’r ffigwr yn yr Alban, ac 11.8% yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Dyma’r ffigurau uchaf yng ngwledydd Prydain ers 2016, ac maen nhw’n cynyddu wrth i’r seibiant ar y dreth stamp ddod i’w derfyn.
Yn ôl Hamptons, diffyg dewis o eiddo i’w brynu yw un o’r prif resymau pam fod pobol eisiau rhentu dros dro, gyda’r rhan fwyaf yn denantiaid am chwe mis neu flwyddyn cyn penderfynu prynu eu heiddo eu hunain.
Rheswm arall yw fod nifer sylweddol o bobol yn symud i ardaloedd newydd ac yn aros am gyfnod cyn penderfynu prynu ac aros yno’n barhaol.
Erbyn mis Gorffennaf, roedd 43% yn llai o eiddo ar gael i’w rentu na’r un adeg y llynedd, cwymp sydd wedi cynyddu’n sylweddol dros y pedwar mis diwethaf.
Dadansoddiad
“Gyda nifer o werthwyr dan bwysau gan eu prynwyr i symud wrth iddyn nhw ei chael hi’n anodd dod o hyd i’w cartref nesaf, mae niferoedd cynyddol o berchnogion tai yn torri eu cadwyn ac yn hytrach yn rhentu,” meddai Aneisha Beveridge, pennaeth ymchwil Hamptons.
“Tra nad yw symud i mewn i gartref sy’n cael ei rentu i guro diwedd seibiant ar y dreth stamp yn beth newydd, mae’n cael ei ddefnyddio’n gynyddol fel cam dros dro gan bobol sy’n chwilio am dai sy’n wynebu prinder stoc i’w brynu.
“Mae rhentu cyn prynu hefyd wedi cael ei yrru gan bobol sy’n chwilio am dai ac sy’n symud yn bell.
“Gyda niferoedd cynyddol yn ceisio byw mewn ardaloedd nad ydyn nhw’n eu hadnabod cystal, mae nifer yn fwy yn rhoi cynnig arni cyn prynu.
“Tra nad yw pobol yn ffafrio symud i mewn i gartref sy’n cael ei rentu wrth ddod i adnabod ardal yn aml iawn, mae hi bron bob amser yn fwy cost-effeithiol na phrynu’r tŷ anghywir yn y stryd anghywir.
“Ond tra bod prynwyr yn wynebu prinder stoc yn y farchnad werthu, mae tenantiaid yn dioddef o ganlyniad i ddiffyg dewis yn y farchnad rentu hefyd.”
Dyma’r ardaloedd yn ôl canran yr eiddo sy’n cael eu rhentu:
– Yr Alban, 16.4%
– Cymru, 15.3%
– Gogledd-orllewin Lloegr, 11.8%
– Llundain, 11.6%
– Dwyrain Canolbarth Lloegr, 9.5%
– De-ddwyrain Lloegr, 9.4%
– Swydd Efrog a Humber, 9.0%
– Gogledd-ddwyrain Lloegr, 8.8%
– De-orllewin Lloegr, 8.8%
– Gorllewin Canolbarth Lloegr, 8.6%
– Dwyrain Lloegr, 7.9%