Mae Cymdeithas y Cymod, sy’n perthyn i’r Glymblaid ‘Rhoi Terfyn ar Ryfel’, yn dweud bod y sefyllfa yn Affganistan “yn ganlyniad ymyrraeth filwrol ugain mlynedd sydd wedi methu”.
Mae ‘Rhoi Terfyn ar Ryfel’ yn cynrychioli nifer o fudiadau a sefydliadau gwleidyddol a chymdeithasol, a phan gafodd ei sefydlu fis Medi 2001, fe rybuddiodd yn erbyn rhuthro i ryfel gan annog dulliau eraill o ymateb i ymosodiadau brawychol 9/11.
Daw hyn wrth i’r Taliban baratoi i gyhoeddi eu bod nhw wedi cipio grym a’u bod nhw am ffurfio Emirad Islamaidd Affganistan.
Mae disgwyl i’r cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud o’r palas arlywyddol yn y brifddinas Kabul.
“Mae’r trychineb presennol yn Affghanistan yn ganlyniad ymyrraeth filwrol ugain mlynedd sydd wedi methu,” meddai Cymdeithas y Cymod mewn datganiad.
“Mae’r cyfrifoldeb ar lywodraethau Unol Daleithiau America, gwledydd Prydain a gwledydd eraill NATO am fynd i ryfel nad oedd modd ei ennill.
“Dechrau’r gwrthdaro, nid sut y mae’n darfod, yw’r broblem.”
“Mae’r ffaith fod byddinoedd yr UDA a gwledydd Prydain wedi’u trechu yn Affganistan yn golygu fod yr ymyrraeth yma, fel rhai Iraq, Syria a’r Yemen, yn drychineb sydd wedi colli degau o filoedd o fywydau ac adnoddau lawer i ddim pwrpas.
“Mae’n bryd i’r ‘rhyfel yn erbyn terfysgaeth’, yr esgus dros ymyrryd fel hyn, ddod i ben.”
Gwarchod ffoaduriaid
Mae Cymdeithas y Cymod, ynghyd â ‘Rhoi Terfyn ar Ryfel’, yn galw ar lywodraethau gwledydd Prydain i arwain rhaglen i warchod y ffoaduriaid a chynnig iawndal i ailadeiladu Affganistan.
Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, eisoes wedi dweud bod ei llywodraeth yn barod i helpu ffoaduriaid o Affganistan yn sgil yr helynt presennol yno.
Ac mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “beidio â throi cefn” ar Affganistan.
“Byddai gweithred o’r fath yn gwneud llawer mwy i hyrwyddo hawliau pobl Affganistan, merched yn arbennig, nag ymyrraeth filwrol neu economaidd yn nhynged Affganistan,” meddai’r datganiad wedyn.
“Rydym yn annog gwleidyddion o bob plaid i ddysgu o fethiant rhyfeloedd ymyrraeth a throi at gydweithio rhyngwladol fel modd o setlo pob anghydfod.”