Mae un o gyn-sêr tîm rygbi Awstralia a phrif hyfforddwr Tonga wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn lladrad hoedig yn ei gartref yn Brisbane.

Fe fu Toutai Kefu, sy’n 47 oed, yn brif hyfforddwr tîm Tonga ers 2016.

Enillodd e 60 o gapiau dros Awstralia, ac roedd e’n aelod o’r garfan enillodd Gwpan y Byd yng Nghaerdydd yn 1999.

Cafodd e a thri aelod arall o’i deulu eu trywanu, ac mae adroddiadau bod tri dyn wedi torri i mewn i’w cartref yn ystod y nos.

Cafodd Kefu a’r tri arall eu cludo i’r ysbyty, ac mae lle i gredu ei fod e mewn cyflwr difrifol ar ôl cael anafiadau i’w stumog, ond fod disgwyl iddo fyw.

Mae’r heddlu’n disgrifio’r digwyddiad fel un “treisgar”, ac mae adroddiadau bod bwyell a chyllyll wedi cael eu defnyddio.

Cafodd llanc 15 oed ei gadw yn yr eiddo tan bod yr heddlu’n cyrraedd, a chafodd llanc arall sy’n 15 oed ei gludo i’r ddalfa ar ôl cael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae Andy Marinos, prif weithredwr Rugby Australia a chyn-ganolwr Cymru, wedi talu teyrnged i Toutai Kefu fel un o fawrion y genedl.