Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio cynghreiriau newydd i ferched i ddechrau ym mis Medi – gan ddileu ‘merched’ o’r enw er mwyn sicrhau cydraddoldeb gyda’r dynion.

Bydd y Cynghreiriau Adran, sy’n cael eu noddi gan gwmni Genero, yn cynnwys dwy haen gystadleuol.

Yr haen uchaf fydd yr Adran Premier, ac fe fydd dwy gynghrair yn yr ail haen, sef Adran y Gogledd ac Adran y De.

Yn ogystal, fe fydd dwy gynghrair ranbarthol ar gyfer timau o dan 19 yn cynnwys 22 tîm i gyd.

Cymdeithas Bêl-droed Cymru fydd y drydedd cymdeithas yn Ewrop i hepgor y gair ‘merched’ o’u cynghreiriau er mwyn dangos cydraddoldeb.

Byddan nhw hefyd yn defnyddio’r gair Adran yn nheitlau dwyieithog y cynghreiriau i ddangos ymrwymiad i’r Gymraeg.

Fformat

Bydd wyth tîm yn ymddangos yng nghynghreiriau’r Adran Premier, y Gogledd a’r De.

Yn ymddangos yn yr Adran Premier fydd Met Caerdydd, Dinas Caerdydd, Dinas Abertawe, Port Talbot, y Seintiau Newydd, Aberystwyth, Pontypridd a Barry Town United – ac fe fydd pob tîm yn chwarae ei gilydd gartref ac oddi cartref.

Ar ôl y 14 gêm hynny, bydd y gynghrair yn hollti – yn debyg i uwchgynghrair y dynion – gyda’r pedwar clwb uchaf yn chwarae ei gilydd ddwywaith a’r pedwar clwb ar waelod y gynghrair yn chwarae ei gilydd ddwywaith.

Yna, bydd pencampwyr yr Adran Premier yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA.

Bydd y tîm sy’n gorffen yn olaf yn disgyn i Adran y De neu’r Gogledd, a bydd enillwyr yr adrannau Gogledd a De yn cystadlu mewn gêm ail gyfle, gyda’r enillwyr yn codi i’r Adran Premier.

Bydd enillwyr adrannau o dan 19 y gogledd a’r de – sy’n cynnwys 22 tîm i gyd – yn chwarae yn erbyn ei gilydd i gael eu coroni’n bencampwyr cenedlaethol.

Gosod llwyfan

Mae Lowri Roberts, pennaeth pêl-droed merched y Gymdeithas, yn dweud mai datblygu statws gêm y merched yng Nghymru yw bwriad y cynghreiriau newydd.

“Rydyn ni am i’n chwaraewyr deimlo eu bod wedi’u grymuso bob tro y byddan nhw’n camu ar y cae,” meddai.

“Mae gan bêl-droed yr un rheolau waeth pa rywedd rydych chi’n ei arddel, pa wlad rydych chi’n dod ohoni na pha iaith rydych chi’n ei siarad.

“Yn y bennod newydd yma ar gyfer y gêm ddomestig yn Nghymru, rydyn ni am wneud datganiad bod tynnu’r gair ‘merched’ allan o enw’r gynghrair yn golygu bod y gêm yn aros yn union yr un fath – pêl-droed.

“Bydd y strwythur newydd yn creu llwybrau cliriach, yn gwella’r ddarpariaeth a rhaglenni’r gemau, ac yn cefnogi chwaraewyr er mwyn caniatáu i ni feithrin ein doniau pêl-droed yn well yng Nghymru.

“Mae hyn yn gosod llwyfan cryfach i’n chwaraewyr i gyflawni eu potensial.

“Yn ei dro, bydd hyn yn gwasanaethu cynrychiolaeth Cymru yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA ac uchelgais Cymru i ennill lle mewn twrnamaint rhyngwladol.”