Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi denu’r amddiffynnwr 20 oed, Ethan Laird ar fenthyg o Manchester United am weddill y tymor.

Bydd e’n gwisgo crys rhif 27, ac fe fydd e ar gael i herio Stoke nos fory (nos Fawrth, Awst 15).

Mae e wedi chwarae yn y stadiwm o’r blaen, pan chwaraeodd e am y tro cyntaf i dîm dan 23 Manchester United yn 16 oed.

Fe yw’r chweched chwaraewr trwy’r drysau ers yr haf ar ôl Kyle Joseph, Liam Walsh, Joel Piroe, Jamie Paterson a Flynn Downes.

Mae e wedi chwarae o dan reolaeth Russell Martin o’r blaen, ar ôl treulio ail hanner y tymor diwethaf ar fenthyg yn MK Dons, lle chwaraeodd e 25 o weithiau.

Ymunodd e â Manchester United yn naw oed, ac mae e wedi chwarae i’r tîm cyntaf ddwywaith yng Nghynghrair Europa.

Mae e’n gallu chwarae yn unrhyw un o’r safleoedd amddiffynnol.