Bydd gan Rob Page rwydd hynt i ychwanegu at ei dîm hyfforddi cyn gemau rhagbrofol nesaf Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Mae e’n chwilio am rywun i olynu Albert Stuivenberg, y cyn-reolwr cynorthwyol, sydd wedi gadael er mwyn canolbwyntio ar ei rôl hyfforddi gydag Arsenal.

Dewis Rob Page fydd penodi rheolwr cynorthwyol newydd, meddai Steve Williams, llywydd newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Penderfyniad Rob yw penodi cynorthwyydd newydd,” meddai wrth raglen chwaraeon BBC Radio Wales.

“Rydyn ni’n cyflogi rheolwr, dydyn ni ddim yn cyflogi ei gynorthwyydd na’i hyfforddwyr.

“Dw i’n gwybod fod Rob wedi bod yn siarad gyda phobol ac mae e wedi dweud wrthym ni, cyn gynted ag y bydd e’n cael y golau gwyrdd, bydd yn gadael i ni wybod. Rydyn ni’n disgwyl am yr alwad honno.”

Ryan Giggs

Yn ôl y disgwyl, bydd Rob Page yn parhau i reoli tîm Cymru am y dyfodol rhagweladwy, ar ôl i Ryan Giggs gael ei gyhuddo o ymosod ar ddwy ddynes.

Fe fydd Giggs, sydd wedi pledio’n ddieuog i ymddygiad o reoli drwy orfodaeth ac o ymosod ar ein gyn-gariad a’i chwaer, yn wynebu achos yn Llys y Goron Manceinion ar 24 Ionawr y flwyddyn nesaf.

Bydd ymgyrch ragbrofol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn ailddechrau ym mis Medi, gyda gêm yn erbyn Belarws yn Kazam, Rwsia ar Fedi 5, cyn iddyn nhw wynebu Estonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 8.

Cyn y gemau hynny, bydd tîm Rob Page yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn y Ffindir yn Helsinki ar Fedi 1.