Y chwaraewr amryddawn ifanc Joe Cooke oedd seren y gêm i Forgannwg wrth iddyn nhw gyrraedd ffeinal y gystadleuaeth 50 pelawd, Cwpan Royal London, gyda buddugoliaeth o bum wiced dros Essex yng Nghaerdydd.
Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth undydd ers 2013, a’r tro cyntaf i chwaraewr amryddawn daro hanner canred a chipio pum wiced mewn gêm Rhestr A ers Peter Walker yn erbyn Cernyw yng Nghwpan Gillette yn 1970.
Tarodd Cooke 66 heb fod allan gyda’r bat, wrth i Forgannwg gwrso 290 yn llwyddiannus, a hynny ar ôl iddo fe gipio pum wiced am 61 gyda’r bêl yn gynharach yn yr ornest.
Ar ôl galw’n gywir a gwahodd yr ymwelwyr i fatio, y Saeson gafodd y dechrau gorau, wrth i Josh Rymell (44) ac Alastair Cook (68) adeiladu partneriaeth agoriadol o 111 mewn 20.4 o belawdau cyn i gyn-gapten Lloegr, Cook gael ei stympio gan Tom Cullen oddi ar fowlio Steven Reingold.
Tarodd Paul Walter 50 i’r ymwelwyr tua chanol y batiad, ond prin oedd y cyfraniadau gwerthfawr eraill gyda’r bat i Essex wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 289 mewn 49.4 o belawdau.
Cipodd pob un o fowlwyr Morgannwg wiced – Michael Hogan, Lukas Carey, James Weighell, Andrew Salter, Reingold ac, wrth gwrs, Cooke.
Cwrso’n llwyddiannus
Dechreuodd Morgannwg yn gadarn wrth iddyn nhw gwrso, gyda Hamish Rutherford (67) a Nick Selman (59) yn gosod y seiliau ar frig y batiad.
Roedden nhw’n 67 heb golli wiced ar ôl wyth pelawd, wrth i Rutherford daro 22 oddi ar belawd Ben Allison, gan gynnwys pedwar pedwar yn olynol.
Cyrhaeddodd Rutherford ei hanner canred oddi ar 29 o belenni, ac fe ddaeth ei fatiad i ben ar ôl 44 o belenni pan gafodd ei ddal gan Paul Walter oddi ar fowlio’r troellwr Simon Harmer.
Cafodd y capten Kiran Carlson ei ddal yn isel gan Josh Rymell ar ôl cyfrannu 36 at y cyfanswm, gyda Billy Root allan yn fuan wedyn am ddim ond tri.
Cyrhaeddodd Selman ei hanner canred cyn cael ei ddal gan y wicedwr Adam Wheater ac roedd awgrym efallai fod y rhod yn troi ychydig.
Ond wrth i Cullen a Cooke aros yn gadarn, 67 oedd eu hangen ar Forgannwg oddi ar ddeg pelawd ola’r gêm.
Gallai Cullen fod wedi cael ei redeg allan tua’r diwedd ond ben draw’r llain, cyrhaeddodd Cooke ei hanner canred oddi ar 50 o belenni wrth i Forgannwg ddechrau edrych yn gyfforddus eto.
Sgoriodd Morgannwg 16 oddi ar belawd rhif 47 gan Jack Plom i sicrhau’r fuddugoliaeth yn gymharol gyfforddus yn y pen draw.
Roedd Cullen heb fod allan ar 41 a Cooke ar 66 pan darodd Cooke ergyd chwech allan o’r cae i selio lle Morgannwg yn y ffeinal yn Trent Bridge, Nottingham ddydd Iau, yn erbyn Durham neu Surrey, fydd yn herio’i gilydd fory (dydd Mawrth, Awst 17).