Mae’n anodd deall pam nad yw pwyllgor canolog y tîm Olympaidd Prydeinig yn cynnig bod y Ddraig Goch yn cael ei chwifio a Hen Wlad Fy Nhadau’n cael ei chanu pan fydd athletwyr o Gymru yn ennill, meddai’r Prifardd Jim Parc Nest.
Er bod y cyn-Archdderwydd T. James Jones yn ofni na ddaw hynny i fod “nes ein bod ni’n cael annibyniaeth”, mae’n dweud ei bod hi’n anodd credu bod gwledydd eraill llai na Chymru’n cael chwifio eu baneri yn y Gemau Olympaidd.
Yn ddiweddar, bu cryn ffraeo wedi i Archesgob Caerefrog awgrymu y dylai Cymru a’r Alban ganu God Save The Queen cyn gemau rhyngwladol – ac mae cyfnewid Lloegr am Brydain a Phrydain am Loegr yn rhywbeth sy’n digwydd yn gyson, meddai Jim Parc Nest.
Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi £23.4m o gyllid ychwanegol i dimau Olympaidd a Pharalympaidd Prydain er mwyn paratoi at y Gemau ym Mharis yn 2024.
“Anodd credu”
“Dw i’n anniddig iawn fod rhaid i’n hathletwyr ni gystadlu dan faner Lloegr, oherwydd Lloegr sydd yn ei defnyddio hi fwyaf fel baner,” meddai Jim Parc Nest, sydd wedi ennill Cadair a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.
“Ac, wrth gwrs, anthem Lloegr sy’n gorfod cael ei chanu bob tro.
“Dw i’n ffaelu’n deg â deall, erbyn hyn na fyddai’r pwyllgor canolog Prydeinig yn barod i gynnig, pan fydd yna athletwr neu athletwraig yn cystadlu o Gymru ac yn ennill na fyddai’r ddraig goch yn medru cael ei chwifio bryd hynny, a bod yr anthem hefyd yn medru cael ei chanu.
“Dw i’n ofni mai unbennaeth yw hi, ac na ddaw hynny ddim i fod nes ein bod ni’n cael annibyniaeth.
“Mae’n anodd credu, mae’r holl wledydd sydd cymaint yn llai na ni, yn y Gemau Olympaidd mae’r rheiny’n cael dangos eu baner eu hunain a dydyn ni ddim.”
“Gyda’n gilydd”
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi llwyddo i hybu’r ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig a chodi proffil Cymru a’r Gymraeg gartref ac yn rhyngwladol.
“Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi llwyddo i godi’r ymdeimlad o hunaniaeth, ac mae e wedi rhoi undod i ni fel cenedl,” meddai Jim Parc Nest, wrth ddweud wrth golwg360 y gallai’r ymdeimlad hwnnw gael ei efelychu gan athletwyr Cymreig.
“Ry’n ni’n teimlo ein bod ni gyda’n gilydd, a ‘gyda’n gilydd’ yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio.
“Pan ein bod ni gyda’n gilydd fel yna, ry’n ni’n gallu creu rhywbeth cryf iawn yn genedlaethol,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn mynd tu hwnt i chwaraeon.
“Mae’r holl fusnes yma o gymysgu Prydain a Lloegr yn digwydd, dw i’n credu bod llawer o’r Saeson yn ymwybodol beth maen nhw’n ei wneud.
“Mae’r Archesgob yma wedi bod yn dweud y dylem ni fod yn canu’r anthem, hyd yn oed yn ein gemau ein hunain.
“Mae e just wedi cyfnewid Lloegr am Brydain, neu Brydain am Loegr – mae hwnna’n digwydd o hyd ac o hyd.”
“Dangos cryfder”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu cyhoeddiad Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a fydd yn golygu eu bod nhw’n rhoi £77.4 miliwn i dîm GB y flwyddyn.
Wrth ymateb, dywedodd Tom Giffard AoS fod y cyhoeddiad yn “dangos cryfder Tîm GB a rôl yr Undeb yn datblygu athletwyr o safon fyd-eang”.
“Fe wnaeth ein hathletwyr ddangos y gorau o Brydain Fawr yn ystod y Gemau Olympaidd diweddar yn Japan, a bydd yr hwb ariannol ychwanegol hwn yn helpu i hyfforddi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o bencampwyr Olympaidd,” meddai Tom Giffard, Gweinidog Chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig.
“Bydd y cyllid hwn yn helpu athletwyr Cymreig i adeiladu ar y llwyddiant yn Japan a chyflawni pethau gwych yng Ngemau Olympaidd Paris mewn tair blynedd.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth, dirprwy arweinydd Plaid Cymru, alw am hawl i Gymru gael cystadlu ar wahân yn y Gemau Olympaidd nesaf.
“Mae’r cyhoeddiad yn dangos cryfder Tîm GB a rôl yr Undeb yn datblygu athletwyr o safon fyd-eang, a oedd rhai’n galw am droi eu cefnau arnyn nhw’r wythnos ddiwethaf fel rhan o’u hymgyrch i wahanu’r wlad.”