Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn disgwyl gêm anodd yn erbyn Stoke yn Stadiwm Swansea.com heno (nos Fawrth, Awst 17, 7.45yh).
Dyma’i bedwaredd gêm wrth y llyw mewn 17 diwrnod, ac mae’r Elyrch yn dal heb fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth.
Bydd tair gêm arall i ddilyn cyn y ffenest ryngwladol fis nesaf.
Roedd y pwynt yn erbyn Sheffield United yn galonogol ddydd Sadwrn (Awst 14), gyda nifer yn disgwyl i’r tîm o Dde Swydd Efrog i ddychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor.
Ac mae disgwyl i Stoke fod yn y ras am y gemau ail gyfle bryd hynny.
“Mae Stoke wedi ychwanegu at eu carfan gryn dipyn,” meddai Russell Martin.
“Mae ganddyn nhw dipyn o gryfder, dyfnder, chwaraewyr sy’n nabod y gynghrair a rheolwr gwych [Michael O’Neill].
“Maen nhw’n drefnus iawn.
“Rydyn ni wedi eu gwylio nhw ychydig bach o ran gêm wythnos ddiwethaf. Bydd hon yn gêm anodd eto.
“Mae gyda ni ddechrau digon anodd i’r tymor, does dim amheuaeth am hynny.”
Y timau
Gallai Ethan Laird wisgo crys Abertawe am y tro cyntaf ar ôl i’r amddiffynnwr 20 oed ymuno ar fenthyg o Manchester United am weddill y tymor.
Mae’n bosib y gallai Liam Walsh ddychwelyd ar ôl anaf, ond mae Connor Roberts allan o hyd.
Mae Jay Fulton ar gael yng nghanol y cae am y tro cyntaf y tymor hwn ar ôl cael ei wahardd am dair gêm yn dilyn ei gerdyn coch yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor diwethaf.
O ran Stoke, dechreuodd Leo Ostigard a Sam Surridge, cyn-ymosodwr Abertawe, am y tr cyntaf yn y gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Birmingham dros y penwythnos.
Gallai Alfie Doughty ddechrau gêm gynghrair am y tro cyntaf, a gallai Josh Tymon ddychwelyd ar ôl cael cyfergyd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn erbyn Reading.
Mae Will Forrester, Tyrese Campbell a Tashan Oakley-Boothe yn dal i wella o anafiadau.