Bydd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn chwarae eu gêm ganol wythnos gyntaf y tymor hwn yn erbyn Peterborough United heno (nos Fawrth, Awst 17).
Dyma fydd eu hail gêm oddi cartref yn olynol wedi iddyn nhw drechu Blackpool o ddwy gôl i ddim dros y penwythnos.
Mae’r Adar Gleision ar rediad gwych mewn gemau oddi cartref ers i Mick McCarthy gael ei benodi’n rheolwr fis Ionawr eleni, gan golli un gêm yn unig yn erbyn Sheffield Wednesday.
Bydd y gêm yn Stadiwm Weston Homes ar gael i’w gwylio ar sianel deledu ar-lein Cardiff City TV.
Newyddion y garfan
Mae disgwyl i Kieffer Moore ddychwelyd i’r tîm ar ôl iddo ddod oddi ar y fainc i sgorio yn erbyn Blackpool.
Ond mae’n debyg y bydd yn rhaid iddo gymryd lle’r ymosodwr James Collins, sydd wedi cael perfformiadau da yn y ddwy gêm gyntaf.
Mae’n bosibl y bydd lle i Will Vaulks ymhlith yr 11 sy’n dechrau, ar ôl i’r Cymro ddod oddi ar y fainc yn y gêm dros y penwythnos wrth iddo geisio dod yn ôl i fod yn holliach.
Oherwydd anafiadau, fydd Isaac Vassell, Lee Tomlin na Isaak Davies ddim ar gael.
Y gwrthwynebwyr
Mae gwrthwynebwyr Caerdydd unwaith eto heno yn wynebau newydd yn y Bencampwriaeth.
Fe gafodd Peterborough ddyrchafiad o’r Adran Gyntaf y llynedd, ar ôl iddyn nhw orffen yn ail i Hull City ac un safle uwchben Blackpool.
Fe roddodd y ‘Posh’ berfformiad sâl yn eu gêm gyntaf o’r tymor yn erbyn Luton, a cholli wnaethon nhw yn erbyn Plymouth yng Nghwpan Carabao.
Ond cawson nhw amser a ganiateir am anafiadau i’w gofio yn erbyn Derby County dros y penwythnos, wedi iddyn nhw ddod o un gôl i lawr i sgorio dwy i ennill y gêm ar ôl y 90 munud.