Durham fydd gwrthwynebwyr tîm criced Morgannwg yn rownd derfynol y gystadleuaeth 50 pelawd, Cwpan Royal London, ddydd Iau (Awst 19).

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Trent Bridge yn Nottingham am 1 o’r gloch.

Dydy Morgannwg ddim wedi cyrraedd y rownd derfynol ers 2013, pan gollon nhw yn erbyn Swydd Nottingham.

Mae Durham wedi cyrraed y ffeinal ar ôl curo Surrey o bum wiced, er i Mark Stoneman, batiwr rhyngwladol Lloegr, daro 117 wrth agor y batio, a tharodd y capten Jamie Smith 85 wrth i’w dîm sgorio 280 am wyth yn eu 50 pelawd.

Ond cyrhaeddodd Durham y nod ar ôl 47.3 o belawdau, gyda chyfraniadau o 75 gan Alex Lees, 71 gan Scott Borthwick a 56 gan David Bedingham.

Joe Cooke

Joe Cooke yn serennu wrth i Forgannwg gyrraedd ffeinal cwpan undydd

66 heb fod allan gyda’r bat ar ôl cipio pum wiced am 61 i drechu Essex yng Nghaerdydd, a Morgannwg yn y rownd derfynol am y tro cyntaf ers 2013