Roedd gan dimau pêl-droed lai o fantais wrth chwarae gartref yn ystod y pandemig, yn ôl ymchwil newydd.
Cafodd yr astudiaeth ei chynnal wrth i dimau orfod chwarae heb dorfeydd yn ystod Covid-19, ac fe ddaeth i’r casgliad fod timau cartref wedi sgorio llai o goliau, wedi cipio llai o bwyntiau ac wedi ennill llai o giciau rhydd neu giciau o’r smotyn yn ystod y cyfyngiadau.
Mae’r astudiaeth gan ymchwilwyr o brifysgolion Northumbria a Leeds o gemau ledled Ewrop, felly, yn dangos dylanwad y cefnogwyr wrth iddyn nhw gefnogi eu timau a dylanwadu ar benderfyniadau’r dyfarnwyr.
Daethon nhw i’r casgliad y byddai’r tîm cartref, ar gyfartaledd, yn ennill 0.39 yn fwy o bwyntiau bob gêm a thîm oddi cartref o flaen cefnogwyr.
Ond cwympodd y ffigwr i 0.22 o bwyntiau’n fwy mewn stadiymau gwag.
Byddai tîm cartre’n sgorio 0.29 yn fwy o goliau bob gêm o flaen cefnogwyr na’r tîm oddi cartref o flaen cefnogwyr, ond fe gwympodd y ffigwr i 0.15 heb gefnogwyr.
Fe wnaeth y dyfarnwyr roi mwy o giciau rhydd am droseddau yn erbyn y tîm cartref, a llai o gardiau melyn i dimau oddi cartref mewn stadiymau gwag.
Fe wnaeth yr astudiaeth ganolbwyntio ar bron i 5,000 o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr, y Bencampwriaeth, a chynghreiriau Bundesliga 1 a 2 yn yr Almaen, La Liga 1 a 2 yn Sbaen, a Serie A a B yn yr Eidal, yn ogystal ag uwch adrannau Portiwgal, Twrci, Groeg, Awstria, Denmarc, Rwsia a’r Swistir.
Ymateb
Yn ôl Dane McCarrick, prif awdur yr astudiaeth sy’n gweithio yn Adran Seicoleg Prifysgol Leeds, mae’r pandemig wedi cynnig cyfle i gynnal astudiaeth ar gwestiwn sydd wedi’i ofyn ers tro.
“Mae’r wybodaeth newydd hon yn datgelu, yn y ffordd symlaf oll, fod presenoleb cefnogwyr o bwys,” meddai.
Yn ôl Dr Sandy Wolfson, seicolegydd chwaraeon ac ymarfer corff ym Mhrifysgol Northumbria, mae’r astudiaeth yn bwysig wrth “gyfrannu at y ddadl hirdymor ar y prif resymau dros fantais y tîm cartref mewn chwaraeon – ffenomen fyd-eang sy’n effeithio timau chwaraeon ar bob lefel, o’r hamdden i’r elit”.