Fe wnaeth clybiau Cymru fethu â chael tri phwynt yn eu gemau yn y Bencampwriaeth neithiwr (17 Awst).
Colli a wnaeth Abertawe o dair gôl i un mewn gêm galed yn erbyn Stoke, tra bod Caerdydd wedi sgorio dwy gôl yn y deng munud olaf i ddod yn gyfartal â Peterborough.
Mae’n golygu bod Caerdydd yn y safleoedd ail gyfle ar ôl tair gem ac mae Abertawe un safle uwchben y parth disgyn.
‘Ddim yn bryderus’
Fe wnaeth Stoke chwarae’n rhyfeddol yn erbyn tîm Abertawe oedd yn sicr yn flinedig.
Dywedodd rheolwr yr Elyrch, Russell Martin, bod ei chwaraewyr “ddim mor ffit ag y dylen nhw fod,” wedi cyfnod byrrach i baratoi cyn dechrau’r tymor.
“Daeth y chwaraewyr i mewn bythefnos yn unig yn ôl – felly dydw i ddim yn bryderus am unrhyw beth,” meddai.
“Mae gennyn ni dymor hir i gael bob dim yn iawn, ond beth ydw i wedi gweld mewn pythefnos gan y chwaraewyr yw brwdfrydedd anhygoel i ddilyn ein cyfarwyddiadau, undod go iawn yn y garfan ac ym mhob un gêm rydyn ni wedi bod yn wirioneddol gystadleuol.
“Mae’n amlwg iawn bod angen i ni ychwanegu cwpl o safleoedd, ond mae beth mae’r bechgyn yn ei wneud yn rhoi cymaint i ni edrych ymlaen ato.
“Bydd y tîm yn gallu cyflawni llawer mwy pan fyddwn ni’n chwarae’r ffordd rydyn ni’n dymuno.”
Pwynt yn ‘gwneud cymaint o wahaniaeth’
Fe aeth Caerdydd ddwy gôl i lawr ar ddechrau’r ail hanner, cyn i’r amddiffynnwr Aden Flint sgorio dwy yn hwyr i gipio pwynt.
Rhoddodd Mick McCarthy, rheolwr yr Adar Gleision, sylw ar “awydd” a “gwytnwch” ei dîm i ddod yn ôl o ddwy gôl i lawr.
“Nid ein bwriad ni oedd cychwyn mor ofnadwy yn yr ail hanner na’i adael mor hwyr i ddod yn gyfartal – mae hynny’n sicr,” meddai.
“Roedd yn ymateb gwych gan yr hogiau serch hynny, ac rwy’n credu ei fod yn dangos yr awydd sydd yn yr ystafell newid.
“Mae’r chwaraewyr i gyd wedi dod i mewn ar ôl y gêm ac wedi siomi gyda’r ffordd y gwnaethon ni ildio goliau heno, ond roedd yr ymateb a gawson ni yn wych.
“Mae’n dangos gwytnwch, caledwch a pharodrwydd i beidio â chael ein curo.
“Ar ddiwedd y tymor, fe allwch chi gael dyrchafiad neu gyrraedd y gemau ail gyfle ar wahaniaeth goliau, felly mae sgorio dwy gôl i ddod yn ôl a chael pwynt yn gwneud cymaint o wahaniaeth.”