Dychwelodd y Cymru Premier y penwythnos hwn ac roedd digon i ddiddanu’r cefnogwyr, oedd hefyd yn dychwelyd i gemau am y tro cyntaf ers mis Mawrth 2020.

Enillodd y Pencampwyr Cei Connah, cafodd Met Caerdydd gweir gan y Fflint, a sgoriodd Daniel Gosset yn ei gêm gyntaf i Gaernarfon.

Yma, mae golwg360 yn edrych ar hynt a helynt y penwythnos cyntaf.

Dydd Gwener, 13 Awst

Derwyddon Cefn 0-2 Cei Connah

Enillodd y pencampwyr Cei Connah oddi gartref yn erbyn Derwyddon Cefn yng ngêm gyntaf y tymor.

Roedd y Nomads ar y blaen o fewn dau funud wrth i Jordan Davies benio i gefn y rhwyd yn dilyn tafliad hir.

Dyblodd capten Cei Connah, George Horan, fantais tîm Andy Morrison wedi’r egwyl gyda pheniad arall o dafliad gan Kris Owen.

Daeth Horan yn agos i sgorio ei ail gôl gyda 11 munud yn weddill wrth iddo daro’r bêl heibio’r postyn.

Ond roedd y pencampwyr eisoes wedi gwneud digon i sicrhau’r dechrau delfrydol wrth iddyn nhw geisio ennill y JD Cymru Premier am y trydydd tymor yn olynol.

Mae’n debyg bod Derwyddon Cefn – wnaeth orffen yn olaf y tymor diwethaf ond gafodd osgoi’r gwymp oherwydd pandemig y coronafeirws – yn wynebu tymor anodd arall.

Er doedd hwn ddim yn berfformiad gwael gan y tîm cartref, ac roedd digon y gallai’r rheolwr newydd Niall McGuiness fod yn hapus amdano.

Dydd Sadwrn, 14 Awst

Bala 2-2 Penybont

Sgoriodd cyn chwaraewr Cymru Dave Edwards ei gôl gyntaf i’r Bala wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal gartref yn erbyn Penybont.

Yr ymwelwyr sgoriodd y gôl gyntaf, a hynny ar ôl 10 munud yn dilyn peniad gan Sam Snaith.

Ond fe wnaeth y Bala ymateb yn dda, ac roedd y gêm yn gyfartal drachefn ar ôl 27 munud diolch i gôl gan Wil Evans.

Daeth gôl Dave Edwards yn yr ail hanner gan roi’r Bala ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.

Fodd bynnag aeth bob dim ar chwâl i’r tîm cartref wrth iddyn nhw ildio cic o’r smotyn, gafodd ei sgorio gan Kane Owen.

Yna, dangoswyd cerdyn coch i’w capten Chris Venables gyda phedwar munud yn weddill yn dilyn digwyddiad gydag amddiffynnwr Penybont Dan Jeffries.

Aberystwyth 2-1 Y Barri

Enillodd Antonio Corbiserio ei gêm gynghrair gyntaf fel rheolwr Aberystwyth gartref yn erbyn y Barri.

Ond bu’n rhaid i’r tîm cartref weithio’n galed ar gyfer y fuddugoliaeth, wrth i’r Barri fynd ar y blaen gyda gôl gan Marcus Day.

Sgoriodd Sam Phillips funud cyn yr egwyl i unioni’r sgôr.

Daeth moment dyngedfennol y gêm yn y munud olaf pan sgoriodd Mathew Jones gic rydd i sicrhau triphwynt i Aberystwyth.

Met Caerdydd 1-5 Y Fflint

Cafodd Met Caerdydd grasfa gartref yn erbyn y Fflint, gan golli 1-5.

Sgoriodd yr ymosodwr newydd Michael Wilde dwywaith i’r Fflint, fydd yn gobeithio gorffen yn uwch na 11eg y tymor hwn yn dilyn haf lle mae’r clwb wedi buddsoddi cryn dipyn yn y garfan.

Roedd Jack Kenny wedi rhoi’r tîm oddi cartref ar ôl wyth munud, cyn i Callum Bratley ychwanegu ail.

Yna daeth dwy gôl gan Wilde, enillydd gwobr chwaraewr y tymor y Cymru Premier y tymor diwethaf, gan roi’r gêm y tu hwnt i Met Caerdydd.

Ychwanegodd Conor Harwood bumed gyda thri munud yn weddill, ond fe wnaeth Tom Price sgorio gôl gysur i’r tîm cartref.

Caernarfon 2-0 Hwlffordd

Sgoriodd Daniel Gosset ar ei ymddangosiad cyntaf i Gaernarfon yn y gynghrair, wrth i’r Caneris ddechrau’r tymor newydd gyda buddugoliaeth o 2-0 gartref yn erbyn Hwlffordd.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Caernarfon yn erbyn Hwllffordd mewn 17 gêm.

Rhoddodd Gosset, wnaeth ymuno o’r Bala dros yr haf, dîm Huw Griffiths ar y blaen gyda chic rydd slei i waelod y rhwyd.

Dychwelodd Gosset i chwarae pêl-droed y llynedd, a hynny ar ôl cael diagnosis o gancr gwaed ddwy flynedd yn ôl.

Ef enillodd wobr ‘Seren y Gêm’.

Dywedodd wrth Sgorio ei bod hi’n “teimlo’n ffantastig” gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gaernarfon, lle cafodd ei fagu.

Sicrhaodd Cai Jones y triphwynt i’r Caneris ym munud olaf y gêm drwy lobio’r bêl dros y ggôl-geidwad.

Bydd Caernarfon, wnaeth golli yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle a cholli allan ar le yn Ewrop y tymor diwethaf, yn gobeithio mynd gam ymhellach eleni.

Dydd Sul, 15 Awst

Y Drenewydd 1-4 Y Seintiau Newydd

Roedd hi’n ddechrau cryf i’r tymor gan y Seintiau Newydd wrth iddyn nhw drechu’r Drenewydd 1-4 oddi cartref.

Bydd Anothony Limbrick yn benderfynol o gipio’r teitl oddi ar Cei Connah ar ôl dod yn ail yn y ddau dymor diwethaf.

Aeth y Seintiau – wnaeth ddisgyn allan o Gyngres Ewropa yr wythnos hon ar ôl colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Viktoria Plazen – ar y blaen drwy gôl gan Ben Clark.

Llwyddodd y Drenewydd i unioni’r sgôr gyda gôl gan Aaron Williams.

Ond roedd y Seintiau yn rhy gryf i’r tîm cartref, ac fe wnaeth goliau gan Declan McManus, Blaine Hudson a Jordan Williams sicrhau bod y triphwynt yn dod yn ôl i Groesoswallt.