Fydd y Cymro Christian Doidge, sy’n chwarae fel ymosodwr i glwb Hibernian yn yr Alban, ddim yn chwarae eto yn 2021 ar ôl anafu ei droed.

Fe gafodd e’r anaf wrth ymarfer cyn gêm Ewropeaidd ei glwb yn erbyn Rijeka yng Nghroatia, ac mae profion wedi cadarnhau maint y broblem.

Sgoriodd e 13 o goliau y tymor diwethaf, a dwy hyd yn hyn y tymor hwn.

“Bydd tri neu bedwar mis eto cyn y bydd e’n dychwelyd i ymarfer, felly yn syml, bydd e’n colli gweddill y flwyddyn galendr,” meddai Jack Ross, prif hyfforddwr Hibernian.

“Mae’n ergyd enfwr i ni ac iddo fe.

“Roedd e’n perfformio’n dda iawn ac roedd ganddo fe uchelgais i fod o gwmpas ac yng ngharfan Cymru, a dw i ddim yn meddwl ei fod e’n bell o hynny.

“Mae e wedi bod yn chwaraewr pwysig iawn i ni yn ystod fy amser yma, a byddwn ni’n gweld ei eisiau fe.”