Mae Gerd Muller, sgoriwr gôl fuddugol tîm pêl-droed Gorllewin yr Almaen yng Nghwpan y Byd 1974, wedi marw’n 75 oed.
Fe fu’r cyn-ymosodwr yn byw â chyflwr Alzheimer ers chwe blynedd.
Yn un o chwaraewyr gorau ei genhedlaeth, roedd e’n aelod o dîm ei wlad enillodd Bencampwriaeth Ewrop yn 1972, ac fe ennillodd e Gwpan Ewrop gyda’i glwb Bayern Munich dair gwaith.
Câi ei adnabod wrth ei ffugenw, ‘Der Bomber’, ac fe sgoriodd e 68 o goliau mewn 62 o gemau dros ei wlad, gan gynnwys y gôl fawr i guro’r Iseldiroedd yn yr Olympiastadion ym Munich yn 1974.
Yn ystod ei bymtheg mlynedd gyda’i glwb, fe wnaeth e dorri record drwy sgorio 365 o goliau mewn 427 o gemau yn y Bundesliga, a 66 o goliau mewn 74 o gemau Ewropeaidd.
Enillodd e’r Ballon d’Or yn 1970 a llu o wobrau eraill yn ystod ei yrfa.
Yn ôl Clwb Pêl-droed Bayern Munich, “mae heddiw’n ddiwrnod du, trist” i’r clwb a’u cefnogwyr.
“Gerd Muller yw’r ymosodwr gorau a fu – yn berson ffein, yn bersonoliaeth pêl-droed yn fyd-eang.
“Heb Gerd Muller, nid y clwb rydym oll yn ei garu fyddai FC Bayern heddiw.
“Bydd ei enw e a’r atgofion amdano’n byw am byth.”