Mae dyn 18 oed wedi cael ei anafu’n ddifrifol yn dilyn ymosodiad yn Wrecsam.
Fe ddigwyddodd ger archfarchnad Morrisons am oddeutu 12 o’r gloch ddoe (dydd Sul, Awst 15).
Cafodd ei gludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad.
“Mae’n bosib y gwelwch chi fwy o heddlu heno wrth i’n hymchwiliad barhau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd.
Maen nhw’n apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.