Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i nifer o gerbydau gael eu rhoi ar dân yng Nghei Connah yn Sir y Fflint.

Fe ddigwyddodd y tu allan i eiddo am oddeutu 3.30 fore heddiw (dydd Sul, Awst 15).

Cafodd tri char, fan cludo nwyddau a charafan eu difrodi yn y tân.

Chafodd neb ei anafu, ond mae’r gwasanaethau brys yn credu bod y tân wedi’i gynnau’n fwriadol.