Mae cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn San Steffan yn galw ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i ymyrryd yn Affganistan.

Daw hyn wrth i’r Taliban gipio pob dinas ond am y brifddinas Kabul, ac maen nhw’n dweud na fyddan nhw’n defnyddio grym i wneud hynny.

Yn ôl Tobias Ellwood, dydy hi ddim yn rhy hwyr i ddatrys y sefyllfa, gan alw ar y prif weinidog i alw cynhadledd frys o “genhedloedd sy’n meddwl yn debyg”.

“Rwy’n pledio â’r prif weinidog i feddwl eto,” meddai wrth Times Radio.

“Mae gennym ffenest o gyfle sy’n gynyddol leihau i gydnabod lle mae’r wlad hon yn mynd fel gwladwriaeth sy’n methu.

“Gallwn wyrdroi hyn ond mae’n gofyn am ewyllys a dewrder gwleidyddol. Dyma ein moment i gamu ymlaen.”

Mae’n galw am anfon y Llynges i Affganistan i gynnig cymorth o’r awyr.

Y sefyllfa hyd yn hyn

Bellach, mae’r Taliban wedi cipio pob dinas ond am y brifddinas Kabul.

Mae cwymp Jalalabad, ger y ffin â Phacistan, yn gadael llywodraeth ganolog y wlad yn rheoli Kabul a chwe phrifddinas arall allan o 34 yn y wlad.

Erbyn hyn, mae’r Taliban wedi trechu neu wedi anfon lluoedd Affganistan allan o ddinasoedd neu’r wlad yn gyfangwbl.

Mae diplomyddion eisoes wedi dechrau dinistrio dogfennau oedd wedi’u cadw yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, ac mae’r Weriniaeth Tsiec hefyd wedi cymeradwyo cynlluniau i dynnu staff o Affganistan o’u llysgenhadaeth nhw ar ôl mynd â diplomyddion i faes awyr Kabul, gan ddweud bod eu bywydau mewn perygl.

Mae’n ymddangos bod ymdrechion Ashraf Ghani, Arlywydd Affganistan, i gynnal trafodaethau wedi methu gan fod nifer o’r rheiny y bu’n trafod â nhw wedi ildio i’r Talbian neu wedi ffoi.

Mae trafodaethau yn Qatar hefyd wedi bod yn aflwyddiannus.

Mae rhai peiriannau arian hefyd wedi rhoi’r gorau i ddosbarthu arian, wrth i gannoedd o bobol ymgasglu er mwyn tynnu eu holl gynilon o’r banciau.

Mae’r gwrthryfelwyr hefyd wedi cipio Maidan Shar, prifddinas Maidan Wardak, 55 milltir yn unig o Kabul.

Ar ôl iddyn nhw gipio Mazar-e-Sharif, pedwaredd dinas fwya’r wlad, roedd gogledd y wlad yn gyfangwbl yn eu dwylo.

Er hynny, mae’r Arlywydd Ghani yn dweud na fydd yn ildio nac yn cefnu ar ddau ddegawd o lwyddiant yn y wlad ers i’r Unol Daleithiau fynd i mewn a threchu’r Taliban yn dilyn ymosodiadau 9/11.

Datganiad y Taliban

Mewn datganiad ddoe (dydd Sadwrn, Awst 14), dywedodd y Taliban na fydden nhw’n mynd i mewn i gartrefi pobol nac yn ymyrryd yn eu busnesau.

Dywedon nhw hefyd y bydden nhw’n cynnig “amnest” i unrhyw un fu’n gweithio â llywodraeth Affganistan neu luoedd tramor.

Serch hynny, mae unrhyw un sy’n gallu ffordd teithio wedi anelu’n syth am faes awyr Kabul, yr unig ffordd allan o’r wlad.