Mae’r Blaid Lafur yn dweud bod cwestiynau i’w hateb ynghylch amgylchiadau cyflafan Plymouth, wrth i’r arweinydd Syr Keir Starmer alw am adolygiad o gyfreithiau’n ymwneud â dryllau yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl Llafur, mae cwestiynau i’w hateb ynghylch sut y cafodd Jake Davison, dyn 22 oed, drwydded ar gyfer dryll cyn mynd yn ei flaen i ladd pump o bobol, gan gynnwys ei fam, cyn saethu ei hun yn farw.

Fe ddaeth i’r amlwg erbyn hyn ei fod e wedi colli’r hawl i gael trwydded ar gyfer ei ddryll yn dilyn ymosodiad arall, ond ei fod e wedi cael ei drwydded yn ôl yn ddiweddarach.

Yn ôl Syr Keir Starmer, mae yna “gwestiynau ehangach” i’w hateb.

“Sut ar wyneb y ddaear gafodd e drwydded ar gyfer dryll yn y lle cyntaf?” meddai.

“Pa wiriadau wrth gefn gafodd eu gwneud?

“Dw i’n falch fod yna ymchwiliad eisoes i’r rheswm pam y cafodd y drwydded ei dychwelyd.

“Dw i yn credu bod cwestiynau ehangach yma, a gallai hynny olygu adolygiad o’r cyfreithiau’n ymwneud â thrwyddedu dryllau oherwydd mae cwestiynau eraill yma mae angen mynd i’r afael â nhw ar frys.”

‘Trasig iawn, iawn’

Daw ei sylwadau wrth i Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, dalu teyrnged i’r rhai fu farw wrth ymweld â’r safle lle digwyddodd y gyflafan.

“Mae’n drasig iawn, iawn y tu hwnt i eiriau, am amryw o resymau, ac yn amlwg i’r rhai sydd ynghlwm,” meddai.

Cafodd gwylnos ei chynnal yno neithiwr (nos Wener, Awst 13).

Ymchwiliad

Mae ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn cynnal ymchwiliad ar ôl i Heddlu Dyfnaint a Chernyw drosglwyddo’r achos iddyn nhw.

Daw hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod yr heddlu wedi dychwelyd dryll i Jake Davison fis diwethaf.

Roedd yr heddlu wedi mynd â’r dryll a’i drwydded oddi arno fis Rhagfyr y llynedd yn dilyn ymosodiad honedig ddeufis ynghynt.

Mae’n debyg iddo fynychu cwrs rheoli tymer ar y pryd.

Fe fydd yr ymchwiliad hefyd yn canolbwyntio ar unrhyw salwch meddwl posib oedd ganddo, ond fydd e ddim yn edrych ar ymateb yr heddlu i’r digwyddiad nos Iau (Awst 12).

Cefndir

Fe wnaeth Jake Davison saethu ei fam Maxine, 51, mewn eiddo cyn mynd allan i’r stryd a saethu Sophie Martyn, tair oed, a’i thad Lee, 43, wrth i nifer o bobol wylio.

Yna, saethodd e Stephen Washington, 59, mewn parc cyn saethu Kate Shepherd, 66, mewn eiddo arall, a bu hi farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Aeth yn ei flaen wedyn i saethu dau o bobol eraill, dyn 33 oed a dynes 53 oed, a’u hanafu.

Derbyniodd yr heddlu nifer o alwadau am 6.11yh, gan gyrraedd o fewn chwe munud.

Cafwyd hyd i Jake Davison yn farw am 6.23yh.

Mae lle i gredu mai ffrae rhyngddo fe a’i fam oedd wedi tanio’r gyfres o ddigwyddiadau, ond mae’r heddlu hefyd yn archwilio’i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol a’i ffôn.

Roedd ganddo fe ddiddordeb mewn dryllau a’r Unol Daleithiau, ac obsesiwn â’r diwylliant o fod yn ddyn sengl nad oedd o’i wirfodd ei hun – mae’n ddiwylliant sy’n seiliedig ar ddynion yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gormesu gan fenywod yn sgil diffyg diddordeb mewn cael perthynas rywiol gyda nhw.

Plymouth

Cyflafan Plymouth: Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu’n ymchwilio i benderfyniadau’r heddlu

Roedd Jake Davison, 22, wedi cael yr hawl i fod â dryllau eto ar ôl colli ei drwydded yn y gorffennol