Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu’n ymchwilio i benderfyniadau Heddlu Dyfnaint a Chernyw ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y dyn 22 oed oedd wedi lladd nifer o bobol yn Plymouth wedi colli’r hawl i fod â dryllau yn ei feddiant yn y gorffennol ond ei fod e wedi cael ei drwydded yn ôl wedyn.
Fe wnaeth Jake Davison, 22, saethu a lladd ei fam 51 oed, Maxine Davison (Chapman) yn ardal Keyham nos Iau (Awst 12).
Aeth yn ei flaen wedyn i saethu Lee Martyn, 43, a’i ferch fach dair oed Sophie, wrth i nifer o bobol wylio’r hyn oedd yn digwydd.
Yna, fe saethodd e Stephen Washington, 59, mewn parc cyn saethu Kate Shepherd, 66, a bu farw hithau yn yr ysbyty’n ddiweddarach.
Cafodd dyn 33 oed a dynes 53 oed anafiadau hefyd, ond dydy eu bywydau nhw ddim mewn perygl.
Yr ymchwiliad
Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar sut y cafodd Davison yr hawl i fod â dryll a thrwydded yn ei feddiant, ar ôl i’r heddlu ddychwelyd yr arf iddo fis diwethaf.
Fe gollodd e’r hawl i gael y dryll a’r drwydded fis Rhagfyr y llynedd, a hynny yn dilyn ymosodiad ddeufis ynghynt.
Ond fydd yr ymchwiliad ddim yn edrych ar ymateb yr heddlu i’r ymosodiadau diweddaraf, er y bydd yn canolbwyntio rywfaint ar benderfyniad Jake Davison i saethu ei hun yn farw ac ar ei ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi bod yn postio negeseuon bygythiol am fenywod.
Cafodd gwylnos ei chynnal neithiwr (nos Wener, Awst 13) er cof am y rhai fu farw.
Dyma’r achos cyntaf o saethu torfol yn y Deyrnas Unedig ers Mehefin 2010.